Dull Cam-wrth-Gam o Adnabod a Rheoli Heintiau mewn Clwyfau
Addaswyd gyda chaniatâd gan y Sefydliad Rhyngwladol Heintiau mewn Clwyfau (IWII), Wound Infection in Clinical Practice: International Consensus Update 2022, a Datganiad, Argymhellion a Chanllawiau Gorchuddion Clwyfau Gwrthficrobaidd (AWDs) y Bwrdd Caffael ar Sail Tystiolaeth, Fersiwn 3 (2023).
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r argymhellion ar gyfer arferion gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gymryd samplau o glwyfau, a bwriedir ei defnyddio fel canllaw. Dylid defnyddio’r canllawiau ar y cyd â barn glinigol broffesiynol a chanllawiau gofal clwyfau lleol.
Cyfeiriwch at ddogfen y Sefydliad Rhyngwladol Heintiau mewn Clwyfau (IWII), Wound Infection in Clinical Practice. Wounds International (2022), ar gyfer y weithdrefn gwisgo clwyfau aseptig (tt. 38-40).
Arddangoswch y ddwy fersiwn pan fyddwch yn arddangos mewn lleoliadau sy’n wynebu’r cyhoedd.