Cymryd swab o glwyf i’w feithrin – Y dechneg ‘Levine’
Addaswyd gyda chaniatâd IWII Wound Infection in Clinical Practice (2022).
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r argymhellion ar gyfer arferion gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gymryd samplau o glwyfau, a bwriedir ei defnyddio fel canllaw. Dylid defnyddio’r canllawiau ar y cyd â barn glinigol broffesiynol a chanllawiau gofal clwyfau lleol.