Neidio i'r cynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio rhaglen grantiau atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo gwerth £1.4 miliwn

Cyhoeddwyd ar: 26 Gor 2026

Gall niwed sy’n gysylltiedig â gamblo gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, gan effeithio ar iechyd, perthnasoedd, cyllid a llesiant. Mae atal y niwed hwn a chefnogi pobl yn gynharach, a hynny yn y cymunedau lle maent yn byw, yn hanfodol i feithrin system iechyd a gofal gynaliadwy at y dyfodol. Dyna pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) cefnogi camau gweithredu gwerth £1.4 miliwn mewn camau gweithredu dan arweiniad y gymuned ledled Cymru. 

Heddiw, mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Cronfa Grantiau Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ar gyfer y Sector Gwirfoddol. Rhaglen dwy flynedd yw hon a fydd yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol i gyflawni gweithgarwch atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru. Y Gronfa yw’r cam cyntaf yn rhaglen ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. 

Bydd y Gronfa Grantiau Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ar gyfer y Sector Gwirfoddol yn darparu hyd at £700,000 y flwyddyn dros gyfnod o ddwy flynedd, a bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais am hyd at £75,000 bob blwyddyn. 

Mae’n agored i elusennau cofrestredig, cwmnïau buddiant cymunedol, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol. Rhaid i bob gweithgaredd a ariennir gael ei gyflawni yng Nghymru. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arbennig o awyddus i glywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n profi caledi ariannol, y rhai sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol a’r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo rhywun arall.  

Mae’r gweithgareddau cymwys yn cynnwys y gweithgareddau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: 

  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a dadnormaleiddio ymddygiadau gamblo niweidiol 
  • Gwaith ataliol wedi’i dargedu ar gyfer poblogaethau â risg uwch 
  • Allgymorth cymunedol a gweithredu cymdeithasol 
  • Cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo pobl eraill 
  • Dulliau newydd ac arloesol o atal gamblo 

Bydd gan bob gweithgaredd effaith ar atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y tymor hir, boed drwy godi ymwybyddiaeth, ymgorffori profiad bywyd neu hyd yn oed ddatblygu tystiolaeth o sut olwg sydd ar ymyrraeth effeithiol. 

CGGC fydd yn gweinyddu’r rhaglen, a bydd yn sicrhau proses hygyrch, gwbl ddwyieithog o ansawdd uchel i ymgeiswyr. 

Bydd y cyfnod ymgeisio’n agor ar 31 Awst 2026 ac yn cau ar 19 Hydref 2026. Cynhelir gweminar gwybodaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a CGGC ar 12 Awst. I gael rhagor o fanylion, ewch i’n tudalen i gofrestru ar gyfer y weminar

Mae’r gronfa yn agored i sefydliadau lleol neu genedlaethol o bob maint. Os gall eich sefydliad wneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a CGGC eisiau clywed gennych chi. 

Dywedodd Helen Erswell, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer y Rhaglen Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Bydd y rhaglen hon yn cefnogi’r sefydliadau sydd agosaf at y rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Bydd yn cyflawni gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chyrraedd y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o niwed. Mae’n adeg dyngedfennol ar gyfer mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru, ac rydym yn annog unrhyw sefydliad sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i wneud cais.” 
 
Dywedodd Catherine Miller, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Grantiau ac Incwm yn CGGC: 

“Rydym yn gwybod bod rhywfaint o’r gwaith ataliol mwyaf effeithiol yn digwydd yn uniongyrchol mewn cymunedau, ac rydym am gefnogi hynny gymaint â phosibl. Dyna pam rydym yn awyddus i’r gronfa hon gyrraedd amrywiaeth eang o sefydliadau’r sector gwirfoddol ledled y wlad. Os ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, byddem yn eich annog i ddysgu rhagor am y gronfa ac ystyried gwneud cais.”