Heddiw bydd y bobl ifanc gyntaf yng Nghymru yn cael eu brechiad Llid yr Ymennydd B sy’n achub bywyd
Cyhoeddwyd ar: 21 Gor 2026
Mae’r rhaglen i gyflwyno’r brechlyn Llid yr Ymennydd B sy’n achub bywyd yn dechrau yng Nghymru heddiw. Am y tro cyntaf mae’r brechiad yn cael ei gynnig i bobl ifanc sy’n paratoi i ddechrau yn y brifysgol neu leoliad addysg bellach breswyl am y tro cyntaf – grŵp y gwyddom sydd mewn perygl sylweddol uwch o glefyd meningococol.
Mae pobl ifanc yng Nghymru sy’n gymwys i gael y brechiad yn cael eu hannog i gael dau ddos o’r brechlyn cyn iddynt fynd i’r brifysgol neu addysg breswyl arall. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnig am gyfnod cyfyngedig i’r garfan o bobl ifanc a aned rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 a’r rhai sydd o dan 25 oed ac sy’n mynd i leoliad addysg bellach neu addysg uwch breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn.
Mae Llid yr Ymennydd B yn haint bacteriol prin ond difrifol sy’n gallu achosi llid yr ymennydd a sepsis. Mae brechlyn yn erbyn Llid yr Ymennydd B wedi bod ar gael i fabanod ers 2015 ac mae bellach yn cael ei gynnig am y tro cyntaf i’r garfan hon o bobl ifanc. Mae hyn oherwydd bod data’n dangos bod pobl ifanc sy’n dechrau yn y brifysgol yn wynebu risg sydd saith gwaith yn uwch o ddal clefyd Llid yr Ymennydd B o’u cymharu â grwpiau eraill, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn llety prifysgol a rennir. Mae eu trefniadau byw agos yn gyfrifol am eu risg uwch, gan gynnwys mannau cymdeithasol a rennir a nifer fawr o bobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt yn cymysgu.
Mae’r rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno ym mhob un o wledydd y DU mewn ymateb i frigiadau o achosion diweddar o Lid yr Ymennydd B gan gynnwys y rhai yng Nghaint ym mis Mawrth, a arweiniodd yn drasig at farwolaeth dau unigolyn ifanc. Tynnodd y brigiad o achosion hwn sylw at yr angen brys i amddiffyn pobl ifanc — yn enwedig y rhai sy’n paratoi i fynd i’r brifysgol am y tro cyntaf — rhag y clefyd hwn sy’n gallu bod yn angheuol. Roedd y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r brigiad o achosion yng Nghaint yn atgof clir o ba mor gyflym y gall Lid yr Ymennydd B lethu hyd yn oed unigolyn ifanc, sydd fel arall yn iach.
Caiff y brechlyn ei roi fel dau ddos unigol, mis ar wahân. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc cymwys yn cael y ddau ddos er mwyn cael eu hamddiffyn yn llawn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb yn y garfan gymwys i sicrhau eu bod yn cael y ddau ddos o’r cwrs brechu, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo’n dda ac yn iach. Os oes angen, gall myfyrwyr gael yr ail ddos yn eu cartref newydd yn eu tref brifysgol, hyd yn oed os yw mewn gwlad arall yn y DU.
Mae pobl ifanc ledled Cymru sy’n gymwys i gael y brechiad yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig gan eu bwrdd iechyd lleol cyn gynted â phosibl. Bydd pobl ifanc 17 a 18 oed (y rhai a aned rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008) yn cael llythyr gan eu bwrdd iechyd yn eu gwahodd i apwyntiad. Ni fydd y rhai a aned ar neu ar ôl 21 Gorffennaf 2001 (sy’n troi’n 25 oed ar neu ar ôl 21 Gorffennaf 2026) ac sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026, yn cael llythyr ond dylent gysylltu â’u bwrdd iechyd i weld ble i fynd i gael eu brechiad yn eu hardal leol. Mae cael eich brechu cyn i chi gyrraedd y brifysgol yn rhoi’r amddiffyniad gorau posibl cyn tymor yr hydref.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae heddiw yn foment bwysig iawn i bobl ifanc ledled Cymru. Gall Llid yr Ymennydd B daro’n gyflym a chyda chanlyniadau dinistriol. Mae pobl ifanc sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Rydym yn annog pawb sydd wedi cael cynnig gan eu bwrdd iechyd i fanteisio ar y cynnig hwnnw a chael eu brechu — ac i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn ôl i gael yr ail ddos. Bydd cael dau ddos yn rhoi’r amddiffyniad llawn sydd ei angen arnoch chi. Gallai’r brechiad hwn achub eich bywyd.”
Gofynnir i bobl ifanc sydd wedi cael llythyr neu gyswllt gan eu bwrdd iechyd drefnu eu hapwyntiad cyn gynted â phosibl. Dylai’r rhai sy’n ansicr a ydynt yn gymwys gysylltu â’u meddyg teulu neu ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Nerys Evans, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol:
“Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol wrth i ni ddechrau cyflwyno’r amddiffyniad pwysig hwn i bobl ifanc a aned rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 a’r rhai sydd o dan 25 oed sy’n mynd i leoliad addysg bellach neu addysg uwch breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn.”
“Mae meningococol B yn glefyd prin ond dinistriol sy’n gallu datblygu’n gyflym. Rydym yn gwybod bod y rhai sy’n mynd i brifysgol neu leoliad addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yn wynebu risg llawer uwch. Rydym wedi cymryd camau pendant i sicrhau bod y grŵp hwn yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt. Rwyf nawr yn annog pob unigolyn ifanc cymwys i fanteisio ar eu cynnig brechu – ac i sicrhau eu bod yn dychwelyd i gael yr ail ddos hanfodol hwnnw.”
Dywedodd Dr Tom Nutt, Prif Weithredwr Meningitis Now:
“Mae’r haf hwn yn gyfle na ellir ei golli i amddiffyn miloedd o bobl ifanc rhag Llid yr Ymennydd B. Rydym eisiau i bob unigolyn ifanc yn ei arddegau a phob oedolyn ifanc sy’n gymwys i gael ei frechu fanteisio ar y cynnig o frechiad am ddim.
“Mae’r rhaglen GIG hon yn gam hynod gadarnhaol ac rydym yn falch o’i chefnogi. Ond rydym hefyd yn gwybod na all yr ymgyrch i amddiffyn pobl ifanc ddod i ben yma. Dyna pam mae ein hymgyrch ‘Dim Cynllun B i MenB’ yn parhau i alw am raglen frechu rhag Llid yr Ymennydd B reolaidd i bobl ifanc, fel bod cenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yn cael yr amddiffyniad hwn fel rhan o raglen imiwneiddio arferol y GIG.
“Gall llid yr ymennydd daro unrhyw un, ar unrhyw adeg, a gall ei effaith fod yn ddinistriol. Brechu yw un o’n dulliau mwyaf pwerus i atal clefyd meningococol, ond er mwyn iddo weithio rhaid i bobl ddod i gael eu brechu. Rydym yn gofyn i rieni, gofalwyr, ysgolion, colegau, prifysgolion a phobl ifanc eu hunain ledaenu’r gair a sicrhau nad oes neb yn colli’r cyfle hwn.”
Er bod y brechlyn Llid yr Ymennydd B yn cynnig amddiffyniad cryf, ni all yr un brechlyn amddiffyn yn erbyn pob math o lid yr ymennydd. Mae’n hanfodol bod pawb – ni waeth a ydynt wedi’u brechu – yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall y clefyd ddatblygu’n gyflym iawn ac mae’n hanfodol ei drin yn gynnar.
Mae symptomau llid yr ymennydd a septisemia i gadw llygaid amdanynt yn cynnwys:
- Cur pen/pen tost difrifol.
- Tymheredd uchel (twymyn)
- Gwddf stiff
- Sensitifrwydd i olau neu synau uchel
- Chwydu neu gyfog
- Trawiadau neu ffitiau
- Brech nad yw’n diflannu pan gaiff gwydr ei wasgu yn ei erbyn — gall hyn fod yn arwydd o sepsis ac mae angen sylw brys ar unwaith
- Dryswch, cysgadrwydd neu anhawster deffro
- Dwylo a thraed oer, neu groen gwelw, cochlyd
Ni fydd pawb yn datblygu’r holl symptomau hyn, a gallant ymddangos mewn unrhyw drefn. Os byddwch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran achosion brys agosaf ar unwaith. Peidiwch ag aros i frech ymddangos.