Gwybodaeth i dadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer tadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer cyflyrau haemoglobin, fel anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol.
Gall y prawf roi gwybodaeth bwysig am iechyd eich babi heb ei eni ac unrhyw blant y gallech eu cael yn y dyfodol. Mae’n esbonio:
- Beth yw’r prawf
- Pam mae’n cael ei gynnig
- Beth y gall y canlyniadau ei ddangos
- Pa ddewisiadau sydd ar gael i chi
Os ydych am gael y prawf, mae’n bwysig eich bod yn ei gael cyn gynted â phosibl. Gorau po gyntaf yn ystod beichiogrwydd eich partner y cynhelir y prawf.
Rydym yn argymell cael y prawf o fewn tri diwrnod gwaith i’r adeg y caiff ei gynnig gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Dylech fod eisoes wedi cael cynnig y prawf hwn. Cofiwch gadarnhau gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol y byddwch yn mynd i’r apwyntiad.