Cyngor Iechyd Cyhoeddus ar gyffuriau a diogelwch
Cyhoeddwyd ar: 11 Gor 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl nad oes unrhyw ffordd gwbl ddiogel o gymryd cyffuriau anghyfreithlon. Mae marchnadoedd cyffuriau yn anrhagweladwy, a gall sylweddau gynnwys cynhwysion annisgwyl, halogion neu gyffuriau llawer cryfach nag a ddisgwylir. Gall hyn arwain at ganlyniadau iechyd difrifol, gan gynnwys gorddos, problemau iechyd hirdymor ac, mewn rhai achosion, marwolaeth.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Yr unig ffordd i osgoi pob risg yw peidio â chymryd unrhyw gyffuriau nad ydynt wedi’u rhagnodi i chi. Meddyliwch yn ofalus am y risgiau cyn dechrau. Mae cymysgu unrhyw gyffur â chyffur arall yn cynyddu’r risg o sgîl-effeithiau peryglus. Mae hyn yn cynnwys alcohol.”
Cadwch yn ddiogel:
- Edrychwch ar ôl eich ffrindiau. Mae’n iawn dweud wrth eich gilydd am gymryd pethau’n araf – dyna beth mae ffrindiau da yn ei wneud. Peidiwch â gadael i neb fynd i ffwrdd ar ei ben ei hun. Os bydd rhywun yn mynd yn sâl, arhoswch gyda nhw. Gall rhai pobl fynd yn ymosodol – gall hyn ddangos eu bod wedi cymryd gormod ac yn arwydd o orddos.
- Os oes gennych chi neu ffrind symptomau sy’n peri pryder, ceisiwch gymorth meddygol. Arhoswch yn dawel a rhoi sicrwydd i’r person eich bod yno i helpu. Os ydynt yn anadlu’n normal, anogwch nhw i fynd i’r safle adfer neu o leiaf i aros yn llonydd.
Cynghorir pobl i:
- Yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcohol, caffein a diodydd llawn siwgr
- Aros allan o’r haul a cheisio cysgod cymaint â phosibl
- Cadw llygad am arwyddion o flinder gwres
- Os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl mewn tywydd poeth, symudwch i le oerach, gorffwyswch ac yfwch ddŵr. Os bydd y symptomau’n gwaethygu, gall ddatblygu’n strôc gwres, sy’n argyfwng meddygol.
Beth i’w wneud os ydych yn teimlo’n sâl yn y gwres
- Dywedwch wrth rywun
- Symudwch i ardal oerach
- Cymrwch sipiau o ddŵr oer ac osgoi diodydd llawn siwgr, alcoholig, poeth neu â chaffein
- Ceisiwch gymorth meddygol – ffoniwch GIG 111 Cymru am gyngor neu 999 mewn argyfwng
Gallwch gael rhagor o gyngor ar leihau niwed cyffuriau yma: Lleihau niwed – WEDINOS – Prosiect Cymru ar Gyffuriau sy’n Dod i’r Amlwg a Chanfod Sylweddau Newydd