Canllawiau ar Gydraddoldeb ac Ymgyrchoedd
Cymhwysedd Diwylliannol
Cymhwysedd diwylliannol yw’r gallu i ddeall, cyfathrebu a rhyngweithio’n effeithiol â phobl o gefndiroedd amrywiol.
Mae’n golygu bod yn ymwybodol o ddiwylliannau, credoau ac arferion gwahanol mewn perthynas â gofal iechyd a pharchu’r gwahaniaethau hynny. Mae’n rhan o’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth
Mae’n bosibl y bydd hyfforddiant arbenigol ar gyfer cymhwysedd diwylliannol ar gael o fewn sefydliadau’r GIG.
Cysylltwch â’ch tîm cydraddoldeb lleol am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth Ramadan i staff
Ramadan – wedi’i addasu o wefan Cyflogwyr y GIG
Yn draddodiadol mae Ramadan yn amser ar gyfer gweddi gymunedol, myfyrdod ysbrydol, prydau gyda theulu estynedig a ffrindiau i dorri ymprydiau dyddiol, gan orffen gyda dathliad cymunedol Eid-Ul-Fitr.
Yn ystod y mis hwn mae Mwslimiaid yn ymprydio bob dydd am y mis lleuad cyfan.
Bydd llawer o staff y GIG sy’n Fwslimiaid yn cymryd rhan mewn cyfnod (Saesneg yn unig) o ymprydio dyddiol, gan ddechrau gyda’r wawr a gorffen wrth i’r haul fachlud yn ystod y mis. Mae hyn yn golygu ymatal rhag bwyta, yfed (gan gynnwys dŵr) ac ysmygu. Er bod yr ymprydio yn rhan bwysig o Ramadan, mae hefyd yn gyfnod o hunan-fyfyrio, hunanwerthuso, addoli cynyddol a gweithredoedd elusennol. Mae’r dyddiad cychwyn a’r dyddiad gorffen yn dibynnu ar weld y lleuad newydd.
Ni fydd pob Mwslim yn ymprydio yn ystod Ramadan, naill ai o ddewis neu oherwydd eu bod wedi’u heithrio’n grefyddol. Mae ymprydio yn brofiad cymunedol ac unigol ac yn un y bydd llawer o staff a chymunedau Mwslimaidd yn edrych ymlaen ato. Mae rheolwyr a sefydliadau’r GIG mewn sefyllfa dda i gefnogi eu cydweithwyr sy’n ymprydio yn ystod Ramadan i wella eu llesiant, cynhyrchiant a’u hymdeimlad o berthyn.
Sut i gefnogi staff a allai fod yn ymprydio?
Mae ymprydio Ramadan yn dod â newidiadau sylweddol i arferion ac ni chaniateir hydradu na meddyginiaeth drwy’r geg yn ystod oriau ymprydio. Am y rhesymau hyn ac eraill, mae’n bosibl y bydd angen i staff â chyflyrau iechyd hirdymor sy’n cyflawni rhai rolau neu batrymau sifft adolygu eu hiechyd cyn dechrau ymprydio. Bydd hyn yn caniatáu iddynt wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth, lleihau cymhlethdodau a chael y budd gorau o ymprydio, yn ogystal ag effeithiolrwydd gweithredol yn y gwaith.
Mae’r rhai sy’n ddifrifol wael wedi’u heithrio rhag ymprydio, ac felly hefyd unigolion sydd â chyflyrau meddygol na ellir eu rheoli’n ddiogel yn ystod Ramadan. Efallai y bydd staff am siarad â’u meddygon, gwasanaethau iechyd galwedigaethol, neu awdurdodau crefyddol i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Mae ymgynefino yn ffactor arwyddocaol ar gyfer helpu staff i ddathlu Ramadan. Gall timau meddygol awgrymu cyfnodau prawf o ymprydio i helpu i ddeall yr hyn y gellir ei gyflawni’n ddiogel. Dylid annog staff i gael y sgyrsiau hyn ymhell cyn Ramadan fel y gellir darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol mewn da bryd. Gweler Canllaw Iechyd Ramadan (Saesneg yn unig) yngor Mwslimaidd Prydain am ragor o wybodaeth am iechyd yn ystod Ramadan.
Mae darparu ar gyfer credoau ac arferion crefyddol yn ystod Ramadan yn ymwneud ag ymateb i anghenion gweithwyr. Mae’n ymwneud â chynnig hyblygrwydd o ran yr hawl presennol i wyliau, patrymau gwaith, neu gyfnodau egwyl ac nid yw o reidrwydd yn golygu amser ychwanegol i ffwrdd.
Nodir diwedd Ramadan trwy ddathlu gŵyl Eid Al-Fitr a chyda gweddi arbennig ar fore’r diwrnod hwnnw ac yna aduniadau cymdeithasol. Mae dyddiad hyn yn dibynnu ar weld y lleuad, felly efallai y bydd cydweithwyr yn ansicr pryd i ofyn am wyliau. Os nad oes modd cymryd gwyliau, gall staff ofyn am hyblygrwydd i fynd i weddïau boreol
Efallai y bydd y staff sy’n dathlu hefyd am drefnu gweithgareddau fel codi arian i elusennau yn ystod Ramadan, gan y credir bod gweithredoedd o ddaioni yn cael gwobrau ysbrydol ychwanegol yn ystod y mis. Mae gan ddeg diwrnod olaf Ramadan hefyd bwysigrwydd arbennig a gall ceisiadau am wyliau fod yn fwy cyffredin yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig ychydig ddyddiau olaf Ramadan.
Dylai fod gan staff fynediad at gyfleusterau cyfagos i wneud eu golchiadau defodol (puredigaethau) a phum gweddi ddyddiol, gan fod y rhain yn cynyddu yn ystod Ramadan.
Mynediad at ganllawiau i gefnogi eich gweithlu yn ystod Ramadan | Cyflogwyr y GIG (Saesneg yn unig).
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ffordd o edrych ar y byd a ddatblygwyd gan bobl anabl yn y 1970au cynnar, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2002.
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi rhwystrau systemig, agweddau negyddol ac allgáu cymdeithasol sy’n golygu mai cymdeithas yw’r prif ffactor sy’n cyfrannu at anablu pobl.
Mae’r Model Cymdeithasol yn symud y ffocws oddi wrth amhariadau neu gyflyrau unigolion ac yn hytrach mae’n edrych ar rwystrau gwahaniaethol, boed yn gorfforol, yn sefydliadol neu’n agweddol, sy’n cael eu creu a’u cynnal gan gymdeithas. Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar hawliau yn helpu i ddatblygu agweddau cadarnhaol mewn cymdeithas
Er mwyn i sefydliadau’r GIG arddel y model cymdeithasol o anabledd yn llawn, gellir categoreiddio rhwystrau i’r canlynol:
- Amgylcheddol: adeiladau, trafnidiaeth a mannau cyhoeddus a gwasanaethau eraill yn cael eu datblygu heb feddwl am ofynion pobl anabl
- Sefydliadol: dangos diffyg hyblygrwydd ac empathi yn y ffordd y caiff polisïau, arferion a gweithdrefnau eu datblygu
- Cyfathrebu: llythyrau ac e-byst wedi’u geirio’n wael mewn ffontiau sy’n eu gwneud yn anodd eu darllen, gwefannau anhygyrch, a diffyg cymorth cyfathrebu
- Agwedd: pobl a chymunedau yn dod i gasgliadau ystrydebol yn gyflym sy’n cyfyngu ar botensial pobl anabl a thuedd rhai pobl (yn fwriadol neu ’n anfwriadol) i fod yn wahaniaethol neu’n rhagfarnllyd. Mae agwedd wrth wraidd holl achosion a symptomau eraill gwahaniaethu a rhagfarn.
Syniadau da ar gyfer hyrwyddo Model Cymdeithasol o Anabledd:
Sicrhewch gefnogaeth ar lefel uwch yn eich sefydliad
- Cynhaliwch a meithrinwch ymgysylltiad da â rhanddeiliaid i nodi rhwystrau amgylcheddol, agweddol a sefydliadol.
- Sicrhewch fynediad da at wasanaethau – trwy Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac adborth gan Ddefnyddwyr Gwasanaethau
- Sicrhewch fod gan bobl gymaint o lais, dewis a rheolaeth ag y dymunant yn eu hamgylchiadau unigryw eu hunain
- Codwch ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Model Cymdeithasol gyda’r holl staff trwy hyfforddiant, ymgyrchoedd a hyrwyddiadau
- Hyrwyddwch ddealltwriaeth o derminoleg y Model Cymdeithasol yn eang. Cofiwch ei gynnwys mewn polisïau a dogfennau.
Rhwydweithiau Cydraddoldeb Staff
Gall Rhwydweithiau Staff ddarparu man cymdeithasol diogel i gydweithwyr ddarparu cymorth gan gymheiriaid, trafod ac uwchgyfeirio materion sy’n effeithio ar aelodau i lefel weithredol. Gall arbenigwyr fynychu cyfarfodydd y rhwydweithiau i gyflwyno gwybodaeth am feysydd o ddiddordeb.
Gall rhwydweithiau helpu i ddatblygu prosiectau a chynhyrchu cylchlythyrau defnyddiol i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb sy’n ymwneud â’r rhwydweithiau
I gael rhagor o wybodaeth am y rhwydweithiau sydd ar gael yn eich sefydliad, cysylltwch â’ch tîm cydraddoldeb.
Ymgyrch Mae’n Gwneud Synnwyr
Bob blwyddyn mae GIG Cymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wahanol anghenion cyfathrebu a gwybodaeth y 600,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda rhyw fath o golled synhwyraidd (byddar neu drwm eu clyw a/neu golli golwg). Enw’r Ymgyrch yw ‘Mae’n Gwneud Synnwyr’.
Negeseuon Allweddol yr Ymgyrch ar gyfer holl Staff GIG Cymru:
- DYSGWCH o’r modiwl e-ddysgu Colled Synhwyraidd beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu â chleifion sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, sy’n ddall neu sydd wedi colli eu golwg neu sydd ag anghenion cyfathrebu eraill.
- GOFYNNWCH i gleifion sut hoffent gyfathrebu â chi
- CYNIGWCH roi’r wybodaeth yn y fformat sydd ei angen arnynt, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print bras, electronig neu Braille.
Hoffem annog holl staff GIG Cymru i gefnogi’r Ymgyrch.
Gellir gweld y modiwl e-ddysgu o’r enw ‘GIG Cymru – Colled Synhwyraidd’ trwy gyfrifon ESR.
Rhagor o wybodaeth:
Ymgyrch Mae’n Gwneud Synnwyr – Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
Dim Hiliaeth Cymru
Mae Dim Hiliaeth Cymru yn galw ar bob sefydliad ac unigolyn sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cytgord hiliol a thegwch i ymrwymo i’n polisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru a gweithredu’r ymrwymiadau a amlinellir gan y polisi o fewn y gweithle a’u bywydau o ddydd i ddydd.
Am ragor o wybodaeth:
Wythnos Cydraddoldeb Flynyddol y GIG
Fel arfer cynhelir Wythnos Cydraddoldeb GIG Cymru ym mis Mai bob blwyddyn.
Mae’n wythnos o weithgareddau a gweminarau a gydlynir gan aelodau Grŵp Cydraddoldeb GIG Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Tîm Cydraddoldeb lleol.
Adnoddau defnyddiol eraill a hyperddolenni
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)
- Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (BIHR) (Saesneg yn unig)
- Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
- Archwilio Cymru
- Cronfa’r Brenin (Saesneg yn unig)
- Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru(WHESP)
- Cymru: Cenedl Noddfa
- Llais: Llais yw’r corff cenedlaethol, annibynnol, newydd sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.