Neidio i'r cynnwys

Rhybudd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am berygl sioc dŵr oer wrth neidio i ddŵr agored yn ystod y don wres

Cyhoeddwyd ar: 25 Meh 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gofyn i bobl fod yn ymwybodol o berygl sioc dŵr oer yn y don wres bresennol, gan ddweud y dylai pobl fynd i mewn i’r dŵr yn raddol i ddechrau.

Mae sioc dŵr oer yn digwydd pan fydd pobl yn neidio’n syth i ddŵr oer yn hytrach na mynd i mewn yn araf a gadael i’w cyrff addasu i’r tymheredd is.

Mae’r sioc yn golygu bod pobl yn cymryd llynciau mawr o aer ac yn anadlu dŵr i mewn, mae eu cyfradd anadlu’n cynyddu’n gyflym ac mae eu cyfradd curiad y galon yn codi’n sydyn, a gallant fynd i drafferthion yn gyflym iawn.

Er bod tymheredd yr aer yn eithriadol o uchel yn ystod y don wres bresennol, mae cyrff mawr o ddŵr fel llynnoedd a’r môr yn dal yn oer iawn yr adeg hon o’r flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol: “Rydym yn bryderus iawn y gallai sioc dŵr oer fod yn broblem wrth i bobl geisio ryddhad o’r tymheredd poeth iawn.

“Mae llynnoedd a’r môr yn edrych yn groesawgar yn y tywydd hwn, ac mae nofio mewn dŵr agored yn ffordd dda o oeri, ond mae’n bwysig iawn mynd i mewn i’r dŵr yn raddol er mwyn i chi allu dod i arfer â’r gwahaniaeth mewn tymereddau.

“Dim ond ardaloedd sy’n ddiogel i nofio ynddynt y dylech chi eu defnyddio a dylech fynd gyda rhywun arall. Peidiwch byth â nofio os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol neu’n defnyddio cyffuriau. Mae hefyd yn syniad da bod yn ymwybodol o gyngor yr RNLI ar sut i Arnofio i Fyw (safle allanol, Saesneg yn unig).

“Byddwn yn gofyn i rieni a gofalwyr sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a’u pobl ifanc wedi mynd, ac i ddweud wrthyn nhw am gymryd y rhagofalon syml hyn fel eu bod nhw’n gallu mwynhau nofio yn y dŵr agored.”