Strategaeth ddigidol a data - Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol i Gymru. Ein diben yw gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach.
Rydym yn gweithio i greu Cymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach a lle mae gan bawb fynediad teg a chyfartal i’r pethau sy’n arwain at lefelau da o iechyd a llesiant.
Mae ein Strategaeth Hirdymor (2023-35) yn egluro ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035.
Mae’r Strategaeth Technoleg Ddigidol a Data hon yn strategaeth alluogi sy’n ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor.
Adrannau
-
Adran 1 – Cyflwyniad
Rydym yn defnyddio data a thechnoleg i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.
-
Adran 2 – Crynodeb
Mae’r strategaeth hon yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion llawer o grwpiau.
-
Adran 3 – Beth yw ein man cychwyn?
Mae llawer wedi newid mewn gwaith ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
-
Adran 4 – Adeiladu ar sylfeini cryf
Cael y sylfaeni’n iawn cyn adeiladu’r tŷ.
-
Adran 5 – Alinio
Nid ydym yn cyflawni mewn gwagle.
-
Adran 6 – Adeiladu i wneud gwahaniaeth
Gallwn wneud gwahaniaeth y mae modd ei fesur i iechyd a llesiant drwy ddata a gwaith dadansoddi pwerus y gellir gweithredu ar eu sail, a thrwy adnoddau a systemau digidol arloesol ac effeithlon.
-
Adran 7 – Casgliad
Sut y byddwn yn gwybod pryd y byddwn wedi cyrraedd y nod neu a ydym yn mynd ir cyfeiriad iawn? Byddwn yn gwerthuso!
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Mehefin 2026