Tlodi plant yng Nghymru yn gysylltiedig â phwysau ehangach sy’n wynebu teuluoedd
Cyhoeddwyd ar: 30 Meh 2026
Mae pobl yng Nghymru yn cydnabod y niwed y gall tlodi plant ei wneud i iechyd, datblygiad a llesiant plant, ac maent yn cefnogi camau gweithredu i leihau’r pwysau y mae teuluoedd yn eu hwynebu ar draws tai, gwaith, gofal plant a chostau byw.
Canfu arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tua wyth o bob deg o bobl yn credu bod byw mewn tlodi yn niweidiol iawn i allu plentyn i fwyta bwyd iach (78 y cant) a byw mewn cartref cynnes a diogel (77 y cant). Roedd tua dwy ran o dair hefyd yn cydnabod ei fod yn niweidiol iawn i iechyd corfforol plentyn (69 y cant) ac iechyd meddwl plentyn (67 y cant).
Canfu’r arolwg fod pobl yng Nghymru yn cefnogi dulliau strwythurol o leihau tlodi plant. Y cam gweithredu a ystyriwyd yn fwyaf effeithiol, o restr o saith cam gweithredu, oedd gwella fforddiadwyedd ac ansawdd tai, gyda 75 y cant o bobl yn credu y byddai hynny’n effeithiol iawn.
Dilynwyd hyn gan wella mynediad at swyddi diogel (73 y cant), gwneud gofal plant yn fwy fforddiadwy a hygyrch (70 y cant), a chamau gan y llywodraeth i helpu i leihau cost nwy a thrydan (70 y cant).
Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod cefnogaeth i gamau cydlynol ar draws meysydd polisi cydgysylltiedig, gan gydnabod na ellir lleihau tlodi plant trwy gamau gweithredu mewn unrhyw un maes yn unig. Dangosodd y data diweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fod bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn 2023-2024 yn byw mewn tlodi, a bod tua un o bob 10 yn profi amddifadedd materol dwfn, sy’n tynnu sylw at raddfa a difrifoldeb yr her sy’n wynebu teuluoedd ledled y wlad.
Adlewyrchwyd hyn yng nghanfyddiadau’r arolwg, gyda 71 y cant o bobl yn dweud eu bod yn credu bod tlodi plant yn broblem fawr yng Nghymru, a 42 y cant yn dweud eu bod yn credu ei fod yn broblem fawr yn eu hardal leol.
Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu bod gwaith i’w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth o ba deuluoedd sy’n fwy tebygol o brofi tlodi. Er bod llawer o bobl wedi nodi’n gywir bod rhai mathau o deuluoedd yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, nid oedd traean neu fwy yn ymwybodol bod hyn yn cynnwys teuluoedd â thri neu fwy o blant, teuluoedd lle mae’r fam o dan 25 oed, teuluoedd o gefndir lleiafrifol ethnig, neu deuluoedd â phlentyn o dan flwydd oed.
Dywedodd Deb Austin, Uwch Swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n amlwg bod pobl yng Nghymru yn ystyried tlodi plant yn fater pwysig sydd angen mynd i’r afael ag ef, a’i fod yn ymwneud â mwy na dim ond incwm – mae’n effeithio ar iechyd, datblygiad a llesiant plant o’r cychwyn cyntaf.
“Er mwyn gwneud cynnydd, mae angen i ni gydweithio ar draws gwasanaethau a sectorau i gefnogi teuluoedd mewn ffordd gydgysylltiedig ac ataliol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun peilot taliadau plant Cynnal sy’n anelu at gynyddu’r arian sy’n mynd i deuluoedd incwm isel, a’r bwriad i ehangu mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel er mwyn i rieni a gofalwyr allu gweithio.
“Ochr yn ochr â hyn, mae tai diogel, o ansawdd da a fforddiadwy, gwaith da a gostwng costau hanfodion i gyd yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau tlodi plant a’i niwed i iechyd. Bydd rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn helpu i adeiladu Cymru iachach a thecach.”