Neidio i'r cynnwys

Storio samplau sgrinio cyn geni

Os byddwch chi’n dewis cael prawf sgrinio neu brofion mewnwthiol, er enghraifft amniosentesis neu CVS (samplu filws corionig), gellir storio eich samplau’n ddiogel yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd yn unol â chanllawiau cenedlaethol (Coleg Brenhinol y Patholegwyr: Cadw a storio cofnodion a sbesimenau patholegol) ac fel y nodir isod.

Sgrinio am HIV, siffilis a hepatitis B

Caiff eich sampl gwaed ei storio am ddwy flynedd.  Os byddwch chi neu’ch baban yn dangos arwyddion o haint arall yn ddiweddarach yn eich beichiogrwydd neu ar ôl i’ch baban gael ei eni, gellir profi’r sampl a chymharu’r canlyniadau â phrofion gwaed y gallech fod yn eu cael yn ddiweddarach yn eich beichiogrwydd.    

Sgrinio ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff

Grŵp gwaed – caiff eich sampl gwaed ei storio rhwng saith a 14 diwrnod ar ôl i’ch canlyniad fod yn hysbys. Yna caiff ei ddinistrio.

Profion gwrthgyrff – caiff eich sampl gwaed ei storio am 12 mis. Mae cyflwr prin, o’r enw clefyd hemolytig y ffetws a’r newyddanedig (HDFN), a all effeithio ar fabanod. Os bydd eich baban yn dangos arwyddion o’r cyflwr hwn, bydd eich sampl yn cael ei ddefnyddio i helpu â diagnosis a thriniaeth. 

DNA di-gell y ffetws (cffDNA) – caiff eich sampl gwaed ei storio am o leiaf flwyddyn. Bydd hyn yn digwydd rhag ofn y bydd angen i ni wirio’r canlyniad yn dilyn genedigaeth eich baban. Mae’n bosibl y bydd eich sampl yn cael ei ddefnyddio i gynnal a gwella safon y prawf ar gyfer y dyfodol. Yna caiff ei ddinistrio.

Grŵp gwaed eich baban – os ydych chi’n D negatif, bydd eich bydwraig yn cymryd prawf gwaed gennych chi a rhywfaint o linyn bogail eich baban pan fydd yn cael ei eni. Caiff y sampl ei dinistrio unwaith y bydd grŵp gwaed eich baban yn hysbys (mae’n cymryd tua wythnos i gael y canlyniad).

Profion sgrinio am syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau

Caiff eich sampl gwaed o’ch prawf cyfun neu bedwarplyg ei ddinistrio unwaith y bydd y canlyniad yn hysbys (mae’n cymryd tua wythnos i gael y canlyniad).  Weithiau, gellir gwneud samplau sy’n weddill yn ddienw (caiff gwybodaeth a allai eich adnabod chi ei thynnu) a’i defnyddio gan y labordy i gynnal a gwella safon y prawf.

Profi cynenedigol heb lawdriniaeth (NIPT)  

Caiff eich sampl gwaed ei storio am gyfnod amhenodol a gall y labordy ei ddefnyddio i gynnal a gwella safon y prawf.

Clefyd y crymangelloedd a thalasaemia

Caiff eich sampl gwaed ei ddinistrio unwaith y bydd y canlyniad yn hysbys (fel arfer mae hyn tua phythefnos ar ôl iddo gael ei gymryd).

Profion mewnwthiol  – amniosentesis a samplu filws corionig (CVS)

Bydd eich samplau’n cael eu storio a gellir eu defnyddio i gynnal a gwella safon y prawf. Weithiau, os bydd y prawf yn dangos bod gan eich baban newid cromosom neu enetig, gellir defnyddio eich sampl os bydd aelodau eraill o’r teulu yn dewis cael eu profi. Caiff samplau eu dinistrio yn unol â gweithdrefnau cenedlaethol a lleol.

Os hoffech drafod yr wybodaeth hon, cysylltwch â’ch bydwraig.