Tegwch ar draws rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso iechyd digidol
Cyhoeddwyd ar: 10fed Mehefin 2026
Mae’r broses o drawsnewid systemau iechyd yn ddigidol wedi cyflymu’n sylweddol ers pandemig clefyd y coronafeirws (COVID-19), gan ail-lunio sut mae pobl yn cysylltu, yn cael mynediad at wybodaeth ac yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd. Mae iechyd digidol a deallusrwydd artiffisial (AI) yn cynnig potensial trawsnewidiol i atal iechyd gwael, gwella mynediad at ofal iechyd a’i effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion. Fodd bynnag, mae sicrhau tegwch mewn systemau iechyd digidol yn hanfodol er mwyn osgoi ymyleiddio poblogaethau difreintiedig ymhellach ac i gefnogi arloesedd a all helpu i leihau annhegwch iechyd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn tynnu sylw at degwch fel blaenoriaeth yn y Strategaeth Fyd-eang ar Iechyd Ddigidol 2020–2025 ac yn y Cynllun Gweithredu Iechyd Ddigidol Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Ewropeaidd WHO (2023–2030). Er bod rheoliadau, fframweithiau a chanllawiau ar gyfer iechyd digidol yn cyfeirio’n gynyddol at degwch, nid yw’n glir a yw’r cyfeiriadau hyn wedi’u cyfyngu i ddatganiadau lefel uchel o egwyddorion neu a ydynt wedi’u hymgorffori’n effeithiol mewn dylunio a gweithredu systemau iechyd digidol.
I fynd i’r afael â’r bwlch hwn, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (y Deyrnas Unedig) adolygiad cwmpasu i asesu sut mae tegwch yn cael ei ymgorffori yn y broses o reoleiddio, gweithredu a gwerthuso systemau iechyd digidol. Nod yr adolygiad yw darparu mewnwelediadau i gefnogi ymdrechion i gryfhau systemau iechyd digidol teg ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Tegwch ar draws rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso iechyd digidol - Adolygiad cwmpasu
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Tegwch ar draws rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso iechyd digidol - Adolygiad cwmpasu (3 MB)
Llawrlwytho PDF