Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Rheoli disgwyliadau ymysg grwpiau nad ydynt wedi eu blaenoriaethu ar gyfer brechu cynnar: crynodeb cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2020

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae argymhellion o’r Pwyllgor Cyfun ar Frechu ac Imiwneiddio, a gyhoeddwyd ym Mehefin 2020, yn nodi grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechiad COVID-19. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys:

  1. Gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  2. Pobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth o COVID-19, wedi’u grwpio yn ôl oedran a ffactorau risg

Ar adeg yr adroddiad hwn (2020), roedd y Pwyllgor yn adolygu tystiolaeth berthnasol i’r DU er mwyn darparu mwy o fanylion o fewn yr ail grŵp blaenoriaeth. Mae rheoli disgwyliadau’r cyhoedd yn bwysig, yn enwedig ar gyfer pobl nad ydynt yn cael blaenoriaeth ar gyfer brechu cynnar.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Gwnaethom chwilio am dystiolaeth yn 2020 a chynnwys un astudiaeth berthnasol o 2014.

Beth wnaethom ei ganfod

  • Er gwaethaf chwiliadau helaeth o gronfeydd data a llenyddiaeth lwyd, ni nodwyd unrhyw ffynonellau o’r DU na ffynonellau diweddar.
  • Nodwyd un ffynhonnell berthnasol i gwestiwn yr adolygiad, sef astudiaeth grŵp ffocws ansoddol o Ganada.
  • Pwyntiau allweddol o’r astudiaeth oedd:  
    • Gall cyfathrebu’n glir pam mae gwahanol grwpiau’n cael blaenoriaeth ar gyfer brechu helpu i gynyddu cefnogaeth y cyhoedd.
    • Gall sicrhau bod blaenoriaethau brechu yn cael eu dilyn yn llym helpu i osgoi teimladau negyddol ymhlith grwpiau nad ydynt yn cael blaenoriaeth.

Beth mae hyn yn ei olygu

Gall y crynodeb hwn helpu i nodi pwyntiau allweddol ar y pwnc. Fodd bynnag, nid yw’r ymchwil a gynhwysir wedi’i hasesu o ran ansawdd ac mae’n deillio o ystod eang o ddeunyddiau cyhoeddedig.

Gwybodaeth dechnegol

Gwnaethom chwilio cronfeydd data academaidd a llenyddiaeth lwyd i nodi a chrynhoi tystiolaeth ymchwil sy’n ymwneud â rheoli disgwyliadau gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth o COVID-19, wedi’u grwpio yn ôl oedran a ffactorau risg, nad oeddent yn cael blaenoriaeth ar gyfer brechu cynnar.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Rheoli disgwyliadau ymysg grwpiau nad ydynt wedi eu blaenoriaethu ar gyfer brechu cynnar: crynodeb cyflym

PDF, 226KB

Llawrlwytho PDF - Rheoli disgwyliadau ymysg grwpiau nad ydynt wedi eu blaenoriaethu ar gyfer brechu cynnar: crynodeb cyflym (226 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig