Effeithiolrwydd ymyriadau cyflenwi gwasanaeth ar gyfer cleifion orthopaedig sy’n oedolion ar restr aros llawdriniaethau rhif adroddiad
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie, Rocio Rodriguez Lopez, Amy Hookway, Hannah Shaw, Adrian Edwards, Ruth Lewis, Alison Cooper, Micaela Gal, Jane Greenwell
Cyhoeddwyd ar: 1af Tachwedd 2021
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n wael ar lawdriniaeth ysbyty wedi’i chynllunio ledled y byd. Erbyn mis Awst 2021 roedd rhestrau aros yng Nghymru wedi cynyddu i 657,539. Mae’r ymchwil hwn yn edrych ar ffyrdd o gynyddu effeithlonrwydd y gwasanaeth i helpu i leihau’r ôl-groniad i oedolion ar restr aros llawdriniaethau orthopedig.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2021 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 1991 a 2017.
Beth wnaethom ei ganfod
Dewiswyd 17 o astudiaethau yn defnyddio tri phrif ddull gweithredu mewn amrywiaeth o wledydd. Edrychodd yr astudiaethau ar ystod o weithdrefnau llawfeddygol ac roedd yn amrywio o 42 i 12,030 o gleifion yn cymryd rhan. Y tri dull gwahanol oedd:
- Defnyddio dulliau sefydledig* i wella effeithlonrwydd
- Ailgynllunio llwybr y claf
- Dyrannu mwy o adnoddau
Archwiliwyd y canlyniadau i gymharu amseroedd aros, pa mor aml y perfformiwyd y gweithdrefnau llawfeddygol, cyfraddau canslo llawdriniaethau a nifer y llawdriniaethau a berfformiwyd.
Awgrymodd canlyniadau’r astudiaethau hyn y gellid gwella perfformiad ym mhob achos.
O ganlyniad i’r newidiadau a gyflwynwyd roedd theatrau llawdriniaeth yn gweithio’n fwy effeithlon. Gostyngodd amseroedd aros ac amseroedd gweithdroadau. Canfuwyd mewn rhai astudiaethau hefyd fod boddhad cleifion yn cynyddu a’u bod yn fwy parod i dderbyn amseroedd aros.
Beth mae hyn yn ei olygu
Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o astudiaethau rhwng 2004 a 2017, felly cynhaliwyd pob un ohonynt cyn i’r pandemig ddechrau. Roedd cyfyngiadau hefyd o ran sut y cynhaliwyd yr astudiaethau a oedd yn ei gwneud yn anodd gwybod pa mor ddibynadwy oedd y canlyniadau. Nid yw’n hysbys a fydd dulliau newydd a gyflwynir o ganlyniad i’r astudiaethau hyn yn llwyddiannus yn ystod neu ar ôl y pandemig.
Fodd bynnag, teimlir y gellir dysgu gwersi o’r astudiaethau hyn o hyd a’u cymhwyso i’r sefyllfa bresennol, ond bydd hyn yn cynnwys-
- Derbyn y bydd angen ymdrech tîm i ddod o hyd i ateb er mwyn lleihau’r ôl-groniad gyda llawer o wahanol feysydd yn gweithio gyda’i gilydd ac yn ystyried y sefyllfa leol.
- Ystyried yr holl ddulliau a ddefnyddir yn yr astudiaethau hyn i wella amseroedd aros.
- Rhagor o werthuso ac ymchwil i sut y gallai’r strategaethau hyn weithio mewn sefyllfa pandemig er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gwybodaeth dechnegol
Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan dalu sylw i duedd ar yr un pryd.
Grŵp rhanddeiliaid a wnaeth y cais
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Lawrlwythiadau adroddiadau
Effeithiolrwydd ymyriadau cyflenwi gwasanaeth ar gyfer cleifion orthopaedig sy’n oedolion ar restr aros llawdriniaethau rhif adroddiad
PDF, 684KB
Llawrlwytho PDF - Effeithiolrwydd ymyriadau cyflenwi gwasanaeth ar gyfer cleifion orthopaedig sy’n oedolion ar restr aros llawdriniaethau rhif adroddiad (684 KB)
Llawrlwytho PDF