Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i’r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Alesha Wale, Jordan Everitt, Toby Ayres, Chukwudi Okolie, Helen Morgan, Hannah Shaw, Rhiannon Tudor Edwards, Jacob Davies, Ruth Lewis, Alison Cooper, Adrian Edwards
Cyhoeddwyd ar: 1af Mawrth 2024
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Oedolion hŷn yw’r grŵp mwyaf o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ond mae mwy a mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd ar-lein. Mae’n bwysig deall sut i gefnogi oedolion hŷn fel y gallant wneud y gorau o’r byd digidol.
Gallai allgáu digidol fod oherwydd nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, neu nad ydynt yn gwybod sut i gysylltu neu’n methu fforddio’r rhyngrwyd.
Roedd yr adolygiad hwn eisiau gweld pa mor effeithiol mae camau cyfredol wedi bod wrth gefnogi oedolion hŷn i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer eu hanghenion gofal.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Roedd yr adolygiad yn cynnwys tystiolaeth oedd ar gael hyd at fis Tachwedd 2023. Cyhoeddwyd yr astudiaethau sydd wedi’u cynnwys rhwng 2018 a 2023.
Beth wnaethom ei ganfod
Cynhyrchwyd ystod o dystiolaeth o’r astudiaethau y gwnaethom ni edrych arnynt. Yn fras, roedd hi’n ymddangos fel pe bai’n dangos bod yr oedolion hŷn a gymerodd ran yn yr astudiaethau o blaid eu hymglymiad.
O edrych yn fanwl ar ganlyniadau’r astudiaethau, nid oedd llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y gefnogaeth a roddwyd i oedolion hŷn sy’n defnyddio gweithgareddau traddodiadol wedi arwain at gynnydd yn eu defnydd o dechnoleg ar-lein.
Roedd tystiolaeth wan i ddangos bod gweithgareddau gan ddefnyddio gemau, cefnogaeth gan bobl iau a meddalwedd arbennig wedi gwella gallu digidol, hyder neu dderbyn technoleg. Roedd y dystiolaeth o gost-effeithiolrwydd hefyd yn ansicr iawn.
Roedd ansawdd isel i’r rhan fwyaf o’r astudiaethau oedd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad, a gan na chynhaliwyd rhai ohonynt yn y DU, efallai na fyddant yn berthnasol i ni. Roedd astudiaethau cyfyngedig a oedd yn ystyried cost-effeithiolrwydd. Nid oedd unrhyw astudiaethau yn edrych ar rwystrau iaith na mynediad at y rhyngrwyd a fforddiadwyedd y rhyngrwyd.
Beth mae hyn yn ei olygu
Byddai ymchwil pellach yn y DU o fudd i ddeall effeithiolrwydd, gan gynnwys cost, ymyriadau i wella allgáu digidol mewn oedolion hŷn.
Dangosodd yr adolygiad cyflym hwn rai buddion posibl addysg o ran gwella ‘llythrennedd’ digidol a derbyn technoleg gan oedolion hŷn. Fodd bynnag, er mwyn lleihau allgáu digidol mewn oedolion hŷn, gall fod yn bwysig cael gwared ar rwystrau fel mynediad i’r rhyngrwyd a fforddiadwyedd dyfeisiau.
Gall addysg helpu i leihau diffyg hyder a phryder ynghylch gallu pobl hŷn i ddefnyddio technolegau digidol.
Mae’n bwysig ystyried y dylai oedolion hŷn gael y dewis i ryngweithio â gwasanaethau hanfodol yn gorfforol (all-lein) neu’n ddigidol. Gyda digideiddio cynyddol gwasanaethau, mae’n bwysig nad yw aelodau hŷn o’r gymuned nad ydynt am ddefnyddio technolegau digidol, yn cael eu gadael ar ôl.
Gwybodaeth dechnegol
Edrychodd yr ymchwil ar lawer o wahanol astudiaethau o bob cwr o’r byd. Roedd yr holl astudiaethau’n darparu rhywfaint o hyfforddiant i oedolion hŷn i’w helpu i wella eu sgiliau digidol. Edrychodd rhai o’r astudiaethau ar bobl iau yn helpu oedolion hŷn, roedd rhai yn defnyddio meddalwedd arbennig a rhai hyd yn oed yn defnyddio gêm.
Awdur
Mel McAulay
Lawrlwythiadau adroddiadau
Crynodeb Gweithredol: Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn
PDF, 140KB
Llawrlwytho PDF - Crynodeb Gweithredol: Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn (140 KB)
Llawrlwytho PDF