Datganiad Sefyllfa ar Fêps (e-sigaréts)
Mae dull iechyd y cyhoedd ar gyfer fêps a fepio yng Nghymru yn defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael er mwyn:
- deall eu heffaith ar iechyd ar draws y boblogaeth gyfan, a
- chydbwyso risgiau a manteision a all fodoli i grwpiau lluosog mewn perthynas ag iechyd y boblogaeth gyfan
Mae tystiolaeth mewn perthynas ag effaith argaeledd eang fêps yng Nghymru, canlyniadau iechyd yn sgil defnyddio fêps yn y tymor hir a’r perthnasoedd cymhleth rhwng fepio ac ysmygu yn dal i ddod i’r amlwg. Felly, bydd y datganiad sefyllfa hwn yn parhau i gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen wrth i dystiolaeth bellach ddod i’r amlwg.