Dadansoddi effeithiolrwydd triniaethau a gynigir gan Stop Smoking Wales (2019)
Awduron: Tîm Dadansoddol
Cyhoeddwyd ar: 5ed Mai 2020
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Mae’r adroddiad byr hwn yn cymharu effeithiolrwydd triniaethau a lleoliadau ymyrraeth a gynigir gan Dim Smygu Cymru (SSW) wrth helpu cleientiaid i lwyddo i roi’r gorau iddi ar ôl 4 wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid
Cyflwyniad
Mae tybaco yn bryder iechyd y cyhoedd mawr ac yn brif achos marwolaethau cyn pryd yng Nghymru. Er bod cyfraddau ysmygu wedi parhau i ostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tua un o bob pump o oedolion yn dal i nodi eu bod yn ysmygwr ar hyn o bryd (Llywodraeth Cymru 2017). Mae Dim Smygu Cymru (SSW) yn ddarparwr gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu GIG Cymru, sy’n rhoi sesiynau cymorth ymddygiad a meddyginiaeth i ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi. Gwerthusodd yr astudiaeth hon Dim Smygu Cymru fel gwasanaeth. Asesodd effeithiolrwydd meddyginiaethau a lleoliadau ymyrraeth a gynigiwyd wrth lwyddo i roi’r gorau iddi ar ol 4 wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid.
Key messages
Mae’r canlyniadau yn yr adran hon wedi’u haddasu ar gyfer y newidynnau eraill a gynhwyswyd yn y model terfynol. Roedd yr arwydd cryfaf y byddai cleient yn rhoi’r gorau i ysmygu yn gysylltiedig â nifer y sesiynau triniaeth a fynychwyd ganddynt. Llwyddodd naw deg un y cant o gleientiaid a aeth i chwe sesiwn neu fwy i roi’r gorau iddi ar ôl 4 wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid o’i gymharu â dim ond un y cant a fynychodd un sesiwn (ffigur 1).
Ffigur 1: Mynychwyr sesiynau Dim Smygu Cymru sy’n llwyddo roi’r gorau iddi ar ôl 4 wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid yn ôl nifer y sesiynau triniaeth a fynychwyd, canran, pobl 16+ oed, Cymru, 2015/16.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod cleientiaid a ddefnyddiodd varenicline ac a aeth i gyfres o sesiynau grŵp yn fwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu o’i gymharu â’r grŵp cyfeirio. Fodd bynnag, nid oedd cleientiaid a ddefnyddiodd varenicline ac a aeth i sesiynau un-i-un yn ystadegol arwyddocaol fwy tebygol o roi’r gorau iddi na’r grŵp cyfeirio (tabl 1).
Tabl 1: Mynychwyr sesiynau Dim Smygu Cymru yn llwyddo i roi’r gorau i Ysmygu ar ol 4 wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid yn ôl triniaeth a lleoliad, cymhareb tebygolrwydd, pobl 16+ oed, Cymru, 2015/16
| Math o feddyginiaeth | Lleoliad | Cymhareb siawns (cyfwng hyder 95%) | gwerth-p |
|---|---|---|---|
| Therapi disodli nicotin | Grŵp caeedig | 1 (Grŵp cyfeirio) | |
| Varenicline | Grŵp treigl | 3.62 (1.00 to 13.14) | 0.051 |
| Varenicline | Sesiynau un i un | 1.20 (0.30 to 4.75) | 0.799 |
Roedd gan ysmygwyr â sgôr dibyniaeth ar nicotin gymedrol neu isel iawn siawns uwch o roi’r gorau iddi yn ystadegol o’i gymharu â’r rhai â dibyniaeth uchel ar nicotin. Parhaodd bron i 5,500 o ysmygwyr a gafodd driniaeth (cleientiaid a fynychodd o leiaf un sesiwn driniaeth) i ddilyn llwybr triniaeth SSW. O’r rhain, cwblhaodd dros 52% yr ymyrraeth.
Casgliad
Canfuwyd mai varenicline a chymorth ymddygiadol grŵp oedd y cyfuniad mwyaf effeithiol o driniaeth a gynigiwyd, er bod y canlyniadau ychydig yn anarwyddocaol yn ystadegol. Mae cadw cleientiaid drwy gydol y llwybr SSW hefyd o bwys, gan fod effaith dos-ymateb clir o ran y sesiynau triniaeth a fynychwyd a’r tebygolrwydd o roi’r gorau iddi.
Cefndir i ddyluniad yr astudiaeth a’r dadansoddiad ystadegol
Roedd yr astudiaeth yn ddadansoddiad trawsdoriadol ôl-weithredol gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan Dim Smygu Cymru. Cafodd cleientiaid yr ystyriwyd eu bod yn ysmygwyr a gafodd driniaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016 eu cynnwys ym mhoblogaeth yr astudiaeth. Y canlyniad o ddiddordeb oedd y rhai a lwyddodd i roi’r gorau i ysmygu ar ôl pedair wythnos a gadarnheir drwy fonitro carbon monocsid. Y prif newidynnau esboniadol oedd y feddyginiaeth a lleoliadau triniaeth a gynigiwyd gan SSW er bod ffactorau eraill gan gynnwys dibyniaeth ar nicotin a statws economaidd-gymdeithasol wedi’u haddasu ar eu cyfer. Cyfrifwyd dadansoddiad disgrifiadol o’r data sylfaenol a’r cyfraddau gadael ar gyfer pob cam o’r gwasanaeth. Modelwyd y data gan ddefnyddio atchweliad cam wrth gam i gadw cyd-newidynnau arwyddocaol a phrofi am dermau rhyngweithio. Sicrhaodd hyn fod ffactorau cyfrannol wedi’u haddasu a bod rhyngweithiadau arwyddocaol wedi’u hystyried. Cynhaliwyd yr holl ddadansoddiadau ystadegol gan ddefnyddio STATA 14.
Cryfderau a chyfyngiadau
Defnyddiodd yr astudiaeth ddadansoddiadau a meini prawf safonol i sicrhau bod y canfyddiadau yn gymaradwy ag astudiaethau rhoi’r gorau i ysmygu tebyg. Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar holl fynychwyr SSW yng Nghymru yn hytrach nag is-set o’r boblogaeth. Roedd hyn yn caniatáu maint sampl digon mawr a lleihau tuedd dethol.
Gallai cyfranogwyr sy’n mynychu ymyriad ildio ysmygu’n wirfoddol fod yn fwy ysbrydoledig i roi’r gorau i ysmygu nag unigolion sy’n ysmygu’n gyffredinol. Felly maent yn wahanol yn systematig i ysmygwyr rheolaidd, a all gyfyngu ar gyffredinoldeb canfyddiadau’r astudiaeth hon.
Cysylltu
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.
Tabeli data
Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn
Hysbysiad hawlfraint
Hawlfraint 2019 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gellir ail-greu deunydd sydd wedi’i gynnwys yn y ddogfen hon o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored (OGL) http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/ cyn belled ei fod yn cael ei wneud yn gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy’n peri dryswch.
Dylid datgan cydnabyddiaeth i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae hawlfraint trefniant teipograffig, dyluniad a gosodiad yn eiddo i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.