Neidio i'r cynnwys

Pecynnau cymorth cwricwlwm: canllawiau bwyd a maeth i athrawon

Mae’r pecyn cymorth hwn yn canolbwyntio ar fwyd a maeth fel un o brif themâu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Dylai addysgu a dysgu am fwyd a maeth gysylltu â’r holl ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig o fewn MDPh Iechyd a Lles, lle bo hynny’n bosibl. Yn benodol,y datganiad Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oesacMae’r ffordd rydym yn
gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.