Neidio i'r cynnwys

Profon sgrinio clyw ar gyfer babanod y mae angen gofal arbennig arnynt

Beth yw sgrinio clyw babanod?

Mae pob babi yn cael cynnig gwiriadau iechyd yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o’r profon hyn yw prawf sgrinio clyw. Mae hwn yn brawf cyfym a syml ac ni fydd yn niweidio’ch babi. Mae angen prawf arall mewn clinig ysbyty ar rai babanod. Gallwch ddewis p’un a yw eich babi yn cael sgrinio clyw ai peidio.

Os yw eich babi’n cael ei eni’n gynnar iawn, efallai na fydd y prawf sgrinio clyw yn cael ei wneud ar unwaith. Bydd y gweithiwr iechyd profesiynol sy’n gofalu am eich babi yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd hyn yn cael ei wneud.

Pam ddyla fy mabi gael prawf sgrinio clyw?

Allan o 1,000 0 fabanod sy’n cael eu geni, bydd gan 1 neu 2 golled clyw. Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall wedi colli clyw. Efallai y bydd babi y mae angen gofal arbennig arno yn fwy tebygol o gael colled clyw.

Nid yw’n hawdd i rieni ddweud os oes gan fabi ifanc golled clyw. Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch babi.

Nid yw sgrinio yn dod o hyd i bob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.

Ynglŷn â’r prawf

Rydym yn ceisio cynnig y prawf i chi ar gyfer eich babi cyn iddo fynd adref o’r ysbyty. Os na, gellir ei wneud yn y gymuned, fel arfer mewn clinig.

Bydd sgriniwr yn gwneud y prawf pan fydd eich babi wedi setlo neu’n cysgu. Ni fydd yn brifo nac yn niweidio   eich babi a dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud.

Babi yn eistedd mewn sedd car, gyda thri phad gludiog bach wedi’u gosod ar y pen a chlustffonau yn eu lle, wedi’u cysylltu trwy wifrau ag offer profi a gliniadur sy’n dangos y canlyniadau, gan ddangos sut mae ymatebion clyw baban newydd-anedig yn cael eu mesur gan awdiolegydd.

Bydd y sgriniwr yn rhoi padiau gludiog bach ar ben a gwddf eich babi. Rhoddir clustfonau bach dros glustiau eich babi. Bydd y clustfonau hyn yn gwneud sŵn clicio. Mae’r ofer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

Canlyniadau

Bydd y sgriniwr yn dweud canlyniad y prawf wrthych yn syth ac yn esbonio a oes angen prawf arall.

Ymateb clir

Os bydd dwy glust eich babi’n dangos ymateb clir, mae’n annhebygol bod gan eich baban golled clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddynt dyfu. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich babi.

Os nad yw’r naill na’r llall neu dim ond un o glustiau eich babi yn dangos ymateb clir

Nid yw hyn bob amser yn golygu bod gan eich babi golled clyw. Efallai na welir ymatebion clir os yw’r canlynol yn wir:

  •  nid yw eich babi wedi setlo;
  •  mae hylif yn y glust (o’r enedigaeth);
  •  mae gormod o sŵn ger eich babi pan wneir y prawf; neu’n
  •  mae gan eich babi golled clyw.

Bydd y sgriniwr yn cynnig prawf clyw arall i’ch babi gydag awdiolegydd (arbenigwr clyw). Mae angen gwneud y profion yn pan fydd eich babi’n dal i fod yn debygol o gysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd y sgriniwr yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Rhagor o brofion

Allan o 100 o fabanod sy’n cael eu geni, bydd angen o rhagor brofion ar 1 neu 2. 

Os bydd angen rhagor o brofion, ydd yr awdiolegydd yn anfon apwyntiad. Bydd yn anfon hyn o fewn wyth wythnos i’r adeg y cawsoch ganlyniad sgrinio clyw eich babi.

Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich babi ddatblygu.

Gall aros am brawf clyw arall beri pryder. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â sgrinio clyw babanod neu siarad â’ch nyrs gofal arbennig.