Neidio i'r cynnwys

Newid iaith y wefan

Offer a mewnwelediadau ar gyfer gwella iechyd

Mae ymarfer iechyd y cyhoedd yn gelfyddyd ac yn wyddor ac mae’n defnyddio nifer o ymagweddau o feddygaeth, y gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol a’r gwyddorau rheoli.

Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Mae meddwl trwy systemau yn sgil craidd ym maes iechyd y cyhoedd a hybu iechyd ac mae’n helpu gweithwyr proffesiynol i ddatblygu polisïau a mentrau sydd yn ymwybodol o ganlyniadau anfwriadol ac i fod yn barod amdanynt.  Er nad oes unrhyw ddiffiniad cyffredinol o system, gellir ei hystyried yn gyffredinol fel grŵp o gydrannau rhyng-berthnasol a rhyng-ddibynnol sydd yn rhyngweithio ac yn ffurfio cyfanrwydd cymhleth ac unedig (The Systems Thinker, 2018).  Mae gan bob system elfennau neu gydrannau sydd yn creu’r system honno, perthynas rhwng yr elfennau neu’r cydrannau a phatrwm o’r system yn gyffredinol.

Mae meddwl trwy systemau yn ffordd o wneud synnwyr o system gymhleth sydd yn rhoi sylw i archwilio’r berthynas, y ffiniau a’r safbwyntiau mewn system.  Ymagweddau systemau yw’r offer a’r dulliau penodol y gellir eu defnyddio i ddeall y system a’r problemau cymhleth ynddi yn well.  Trwy gyfuno agweddau a meddwl trwy systemau, mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i weld y darlun cyflawn a rhoi ystyriaeth i’r ffordd y gallai newid un rhan o’r system ddylanwadu ar rannau eraill.

Mae meddwl trwy systemau yn arbennig o bwysig ym maes iechyd y cyhoedd wrth edrych ar:

  • Faterion hirdymor fel mynd i’r afael â gordewdra neu gynyddu gweithgaredd corfforol mewn poblogaeth
  • Mae rhanddeiliaid lluosog (poblogaethau a sefydliadau) ac achosion lluosog sydd yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd
  • Mae safbwyntiau gwahanol neu sydd yn gwrthdaro ar fater fel y defnydd o sigaréts electronig
  • Nid oes un esboniad unigol am yr hyn sydd yn achosi’r mater a dim un ateb unigol fydd yn cyd-fynd â phob sefyllfa – er enghraifft lleihau anghydraddoldebau iechyd.      Systems series: Why use a systems approach  (Addaswyd o The Australian Partnership Prevention Centre, 2021)(Saesneg yn unig).

Mae cyfres o fidios ar gael i chi wylio sydd yn berthnasol i feddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd:

 

Adeiladu Cymru iachach

Mae Grŵp Cydlynu Creu Cymru Iachach yn gynghrair anstatudol o arweinwyr strategol sy’n cynrychioli sefydliadau a safbwyntiau strategol ar draws sectorau sydd â chynrychiolaeth amrywiol ledled Cymru.

Ei nod yw cynyddu effaith ymdrechion cyfunol asiantaethau yng Nghymru i’r eithaf i wella iechyd, llesiant a thegwch.

Mae’n gwneud hyn trwy:

  • Greu lle i arweinwyr strategol ddod ynghyd ar lefel Cymru gyfan
  • Canolbwyntio ar atal, tegwch ac ysgogwyr systemau mewn ymagwedd ‘iechyd ym mhob polisi’
  • Sganio’r gorwel, gan amlygu problemau cyffredin ac atebion
  • Rhannu gwybodaeth, tystiolaeth a gwersi a ddysgwyd rhwng aelodau
  • Cefnogi cydweithio rhyng-sector, gan amlygu cydfuddion sy’n deillio o weithredu ar y cyd
  • Rhoi cyngor cydlynol i Lywodraeth Cymru ar effeithiau posibl polisïau ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor cydlynol i bartneriaethau lleol a rhanbarthol, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae pum ffordd o weithio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ynghyd ag ymagwedd ‘iechyd ym mhob polisi’ wrth wraidd Grŵp Cydlynu Creu Cymru Iachach, gan gydnabod buddion poblogaeth iachach i lawer o sectorau a chyflawni mewn meysydd polisi eraill.

Adnoddau