Gwybodaeth os yw’r sgan anomaledd ffetws wedi dangos bod gan y babi fentrigwlomegaly
Fersiwn 7, Hydref 2026
Mae’r wybodaeth yn berthnasol os mai fentricwlomegali oedd yr unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan.
Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fyddan nhw rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd. Mae’r sgan yn ffordd o wirio bod eich baban yn ymddangos yn datblygu fel y disgwylir. Mae hwyrach y bydd canfyddiadau annisgwyl yn dod i’r amlwg y byddai angen eu gwirio wedyn drwy brofion pellach.
Fentricwlomegali
Mae fentricwlomegali i’w gael mewn tua 1 o bob 1,000 (0.1%) o feichiogrwyddau yng Nghymru.
Beth yw fentricwlomegali?
Mae fentriglau yn fannau arferol o fewn ymennydd y baban sy’n llawn hylif (hylif serebro-sbinol, neu CSF) sy’n gweithredu fel ‘clustog’ i’r ymennydd ac sydd hefyd yn darparu maetholion i’r ymennydd.
Fel arfer mae’r fentriglau yn llai na 10.1 milimetr (mm) o led. Pan fyddant yn mesur 10.1mm neu fwy, gelwir hyn yn fentricwlomegali. Gall hyn gael ei achosi gan ormod o hylif yn cael ei gynhyrchu yn yr ymennydd.
Yng Nghymru, pan fo fentricwlomegali yn ganfyddiad annisgwyl ar sgan anomaledd y ffetws, mae tua 5 o bob 10 baban (50%) yn cael eu geni heb unrhyw gyflyrau iechyd eraill.
Ar gyfer y 5 o bob 10 baban sy’n weddill (50%), gall profion pellach ddod o hyd i achos. ar gyfartaledd
- Mae gan 4 o bob 10 baban (40%) gyflwr gyda’u hymennydd a all oedi eu datblygiad, a
- Bydd gan 1 o bob 10 beichiogrwydd (10%) â fentricwlomegali gyflwr cromosomaidd.
Weithiau, mae heintiau fel cytomegalofirws (CMV), tocsoplasmosis a rwbela (brech goch yr Almaen) yn gysylltiedig â fentricwlomegali. Yng Nghymru rhwng 2011 a 2020, cofnodwyd pum achos o CMV yn gysylltiedig â fentricwlomegali, un achos o docsoplasmosis a dim achosion hysbys o frech goch yr Almaen.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd bydwraig sy’n arbenigo mewn sgrinio cynenedigol neu’ch meddyg ysbyty (obstetrydd) yn eich gweld a fydd yn egluro pa ofal a gynigir i chi nesaf.
Oherwydd y canfyddiadau hyn, cynigir apwyntiad i chi gydag ymgynghorydd meddygaeth ffetws. Efallai y bydd yr apwyntiad hwn yn yr ysbyty lle rydych chi wedi’ch trefnu i eni’ch baban, neu efallai na fydd.
Yn yr apwyntiad hwn bydd y fydwraig a’r meddyg yn egluro mwy am y cyflyrau ac am y profion y gallwch eu cael a sut maen nhw’n cael eu gwneud. Mae rhai menywod yn penderfynu peidio â chael y profion hyn. Bydd y fydwraig a’r meddyg yn cefnogi unrhyw ddewis a wnewch. Efallai bod gennych gwestiynau i’w gofyn i’r fydwraig neu’r meddyg ac efallai yr hoffech gael apwyntiad arall. Efallai yr hoffech i’ch partner neu berson arall ddod gyda chi i gael cefnogaeth. Efallai y byddwch am gael mwy o amser i feddwl cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.
Efallai yr hoffech chi feddwl am yr hyn y gallech chi ei wneud os yw canlyniad y prawf yn dangos bod gan eich baban un o’r cyflyrau. Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod cyflwr wedi’i ddangos ar eu baban. Gall menywod eraill benderfynu dod â’r beichiogrwydd i ben os disgwylir canlyniad gwael.
Pa brofion fydd yn cael eu cynnig i mi?
Prawf Gwaed
Byddwch yn cael cynnig prawf gwaed i weld a ydych wedi cael CMV, tocsoplasmosis neu rwbela (brech goch yr Almaen) yn ddiweddar. Os yw’r prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael unrhyw un o’r heintiau hyn, mae siawns fach y bydd yr haint yn trosglwyddo ar draws yr ôl-enedigaeth ac yn heintio’ch baban. Os yw eich baban wedi’i heintio ag unrhyw un o’r uchod, gall achosi problemau fel pwysau geni isel, clefyd melyn, colli clyw, colli golwg a chyflyrau’r galon.
Amniosentesis
Cynigir amniosentesis i chi os ydych chi eisiau gwybod cyn genedigaeth eich baban a yw’r fentricwlomegali oherwydd newid cromosomaidd.
Mae amniosentesis yn ffordd gywir iawn o ddweud a oes gan eich baban y cyflyrau hyn ai peidio.
Mae amniosentesis yn cario risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% (neu 1 mewn 200 o feichiogrwyddau). Gall y gamesgoriad fod yn golled baban a effeithiwyd neu nad effeithiwyd arno gan y cyflyrau sy’n cael eu profi amdanynt.
Os yw eich prawf gwaed wedi dangos eich bod wedi cael haint yn ddiweddar, bydd amniosentesis hefyd yn dweud a yw eich baban wedi’i heintio gan CMV, tocsoplasmosis neu rwbela (brech goch yr Almaen).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amniosentesis ar dudalen we Sgrinio Cynenedigol Cymru ‘Gwybodaeth am brofion pellach ar gyfer cyflyrau cromosomaidd neu enetig a amheuir‘.
Sgan MRI o ymennydd eich babi
Byddwch yn cael cynnig sgan MRI o ymennydd eich baban. Bydd hyn yn rhoi mwy o wybodaeth am sut mae ymennydd eich baban yn datblygu.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cynenedigol neu’ch meddyg ysbyty (obstetrydd).
Ysmygu
Mae amddiffyn eich baban rhag mwg tybaco yn un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i roi dechrau iach mewn bywyd iddo. Gall fod yn anodd rhoi’r gorau i ysmygu, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi’r gorau iddi. Dewch o hyd i wybodaeth a chymorth yn Helpa Fi i Stopio.
Mae gwybodaeth gan CARIS (Gwasanaeth Gwybodaeth a Chofrestr Anomaleddau Cynhenid) ac Astudiaeth Cymru o Famau a Babanod wedi’i defnyddio yn y daflen hon i ddisgrifio sut y gall coluddyn ecogenig ymddangos yn eich babi.