Canlyniad sgrinio eich babi – Mae asidaemia isofalerig (IVA) yn cael ei amau
Mae prawf smotyn gwaed (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod gan eich baban newydd-anedig asidemia isofalerig (IVA).
Bydd angen cynnal rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban IVA.
Beth yw asidemia isofalerig (IVA)?
Mae IVA yn anhwylder metabolaidd etifeddol prin y gellir ei drin.
Nid oes gan fabanod ag IVA ddigon o’r ensym sydd ei angen arnynt i dorri i lawr rhan o’r protein a geir mewn bwyd. Heb yr ensym hwn, gall rhai sylweddau niweidiol gronni yn y corff. Os na chaiff ei drin, gall IVA arwain at salwch difrifol a phroblemau iechyd hirdymor.
O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod ag IVA dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl ag IVA fwynhau bywydau iach a gweithgar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm metabolig arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes IVA gan eich baban.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r prawf.
Os bydd eich baban yn mynd yn sâl neu os ydych chi’n poeni nad yw’n bwydo’n iawn, ceisiwch gymorth meddygol.
Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban IVA , byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol:
Metabolic Support UK
- Gwefan: www.metabolicsupportuk.org (Saesneg yn unig)
- Rhif ffôn: 0845 241 2173 neu 0800 652 3181
- E-bost: [email protected]
Mae llyfryn defnyddiol am IVA (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan British Inherited Metabolic Diseases Group (BIMDG).