Gwybodaeth os ydych yn feichiog a bod gennych ganlyniad prawf positif ar gyfer syffilis
Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu
Nid yw prawf sgrinio positif bob amser yn golygu bod gennych syffilis. Nid yw canlyniadau profion sgrinio ar gyfer syffilis bob amser yn hawdd eu deall.
Bydd arbenigwr yn adolygu eich canlyniadau ac yn gofyn cwestiynau i chi am eich iechyd ac unrhyw heintiau blaenorol. Weithiau, bydd prawf sgrinio yn dangos canlyniad positif oherwydd:
- bod gennych chi syffilis yn y gorffennol ac fe gafodd ei drin, a
- gall cyflyrau eraill, sy’n llai difrifol, achosi’r canlyniad positif.
Bydd profion pellach yn cadarnhau a oes gennych syffilis ar hyn o bryd.
Beth yw syffilis?
Mae syffilis yn haint difrifol a achosir gan facteria. Os na chaiff ei drin, gall achosi problemau iechyd difrifol yn ddiweddarach yn eich bywyd, fel niwed i’r ymennydd a phroblemau gyda’r galon.
Efallai eich bod wedi bod â syffilis heb unrhyw symptomau, neu efallai mai dim ond am gyfnod byr yr oeddech wedi teimlo’n sâl pan gawsoch eich heintio gyntaf. Gellir trin syffilis yn llwyddiannus gyda gwrthfiotigau.
Ni chaiff syffilis ei drosglwyddo trwy gyswllt bob dydd
Ni allwch drosglwyddo syffilis i bobl eraill trwy gyswllt cymdeithasol bob dydd. Mae hyn yn cynnwys siopa, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, bwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd, rhannu tywelion neu doiledau, defnyddio’r un cyllyll a ffyrc, neu gusanu.
Sut y gellir trosglwyddo syffilis?
Gellir trosglwyddo syffilis os ydych chi’n cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd â’r haint. Mae hyn yn cynnwys:
- rhyw drwy’r wain
- rhyw yr anws, a
- rhyw drwy’r geg.
Gellir ei drosglwyddo hefyd drwy:
- unrhyw gyswllt ag wlserau ar yr organau cenhedlu (cornwydydd gwenerol) neu frechau, ac
- o’r fam i’r baban yn ystod beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth
Mae defnyddio condom (ar y pidyn neu gondom mewnol yn y fagina) yn lleihau’r risg o drosglwyddo syffilis yn fawr.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn cymryd sampl gwaed arall i gadarnhau eich canlyniad. Mae’n annhebygol iawn y bydd y canlyniad hwn yn newid. Cynigir apwyntiad i chi mewn clinig iechyd rhywiol ar gyfer archwiliad ac asesiad llawn. Mae hyn yn helpu’r clinig i gadarnhau’r diagnosis. Os bydd y meddyg yn cadarnhau bod gennych syffilis, bydd yn trafod pa driniaeth fyddai orau gyda chi.
Pam mae cael eich trin yn bwysig?
Mae trin syffilis yn ystod beichiogrwydd yn bwysig iawn gan ei fod yn lleihau’r siawns y byddwch yn trosglwyddo’r haint i’ch baban. Os bydd syffilis yn cael ei drosglwyddo i’ch baban, gall achosi:
- camesgoriad,
- marw-enedigaeth, neu
- broblemau iechyd difrifol neu annormaleddau yn eich baban.
Pwy fydd yn eich cefnogi?
Bydd eich arbenigwr iechyd rhywiol a’ch bydwraig yn trafod eich dewisiadau gyda chi, yn eich helpu i gynllunio eich gofal ac yn eich cefnogi chi.
Eich triniaeth
Os oes syffilis gennych, byddwch yn cael eich trin â gwrthfiotigau. Bydd angen i chi gael profion gwaed dilynol ar ôl i chi gael eich trin. Mae’r profion hyn yn bwysig, am eu bod yn gwneud yn siŵr bod yr haint wedi’i drin yn gyflawn.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’ch triniaeth. Os na chaiff syffilis ei drin yn iawn, gall yr haint symud i’ch baban yn ystod eich beichiogrwydd.
Unwaith y bydd syffilis wedi’i drin yn llwyddiannus, ni fydd yn dychwelyd oni bai eich bod chi’n cael cyswllt rhywiol â rhywun sydd â syffilis.
Sut fydd syffilis yn effeithio ar fy meichiogrwydd a genedigaeth fy maban?
Os cewch eich trin, ni fydd syffilis yn effeithio ar weddill eich beichiogrwydd, eich dewisiadau ar gyfer rhoi genedigaeth i’ch baban na sut y byddwch chi’n bwydo’ch baban.
Sut fydd fy maban yn cael ei amddiffyn?
Mae dechrau triniaeth wrthfiotig yn gynnar yn ystod beichiogrwydd yn lleihau’r siawns y bydd eich baban yn dal syffilis yn fawr.
Os caiff eich haint ei ddiagnosio’n ddiweddarach yn ystod eich beichiogrwydd, efallai y bydd gan eich baban siawns uwch o gael syffilis. Efallai y cynigir gofal ychwanegol i chi gan uned meddygaeth y ffetws. Gall yr uned gynnal archwiliadau arbenigol i fonitro iechyd eich baban a helpu i gynllunio’r gofal mwyaf diogel i’r ddau ohonoch.
Ar ôl i’ch baban gael ei eni, bydd yn:
- cael ei archwilio gan bediatregydd, a
- chael profion gwaed i wirio am syffilis.
A fydd angen gwrthfiotigau ar fy maban?
Efallai y bydd angen gwrthfiotigau ar eich baban ar ôl iddo gael ei eni, yn enwedig os cawsoch eich trin am syffilis yn hwyr yn ystod y beichiogrwydd. Mae hyn yn helpu i leihau’r risg y bydd yr haint yn trosglwyddo i’ch baban.
Pwy ddylai wybod bod gen i syffilis?
Er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch baban yn cael y gofal mwyaf diogel a phriodol, efallai y bydd angen i’ch bydwraig rannu gwybodaeth ag arbenigwyr eraill sy’n ymwneud â’ch gofal, fel:
- y tîm iechyd rhywiol,
- yr obstetrydd (meddyg ysbyty sy’n gofalu am fenywod beichiog); ac
- y pediatregydd (meddyg sy’n gofalu am fabanod a phlant)
Mae’r arbenigwyr hyn yn gweithio gyda chi i gynllunio eich gofal a’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn rhan arferol o ofal y GIG.
Bydd eich bydwraig yn egluro pa wybodaeth sydd angen cael ei rhannu a pham. Gallwch ddewis a ydych chi eisiau i’ch meddyg teulu wybod am eich diagnosis o syffilis.
Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol bob amser a dim ond gyda staff gofal iechyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal y caiff ei rhannu.
Siarad â’ch partner
Efallai yr hoffech ofyn i’ch tîm iechyd rhywiol am gyngor ar sut i esbonio canlyniad eich prawf i’ch partner.
Os nad yw’ch partner yn gwybod a oes ganddo syffilis:
- defnyddiwch gondomau i leihau’r siawns y byddwch yn trosglwyddo syffilis iddo; ac
- anogwch eich partner i gael prawf yn ei bractis meddygon teulu neu glinig iechyd rhywiol.
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:
- y fydwraig ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn geni
- yr obstetrydd
- eich clinig iechyd rhywiol GIG agosaf – ffoniwch eich ysbyty lleol a gofynnwch am y clinig iechyd rhywiol.
- gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a
- GIG 111 Cymru