Canlyniad sgrinio eich babi – Cludydd Crymangelloedd
Mae prawf smotyn gwaed (prawf pigo sawdl) eich baban newydd-anedig yn awgrymu y gallai fod anhwylder y crymangelloedd ganddo.
Bydd angen cynnal rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban anhwylder y crymangelloedd.
Beth yw anhwylderau’r crymangelloedd?
Mae anhwylderau’r crymangelloedd yn gyflyrau etifeddol prin y gellir eu trin.
Maent yn effeithio ar sut mae celloedd coch y gwaed yn gweithio ac yn ymddwyn yn y corff ac os na chânt eu trin, gallant arwain at broblemau iechyd difrifol a hirdymor.
Os cânt eu diagnosio’n gynnar, gall babanod ag anhwylder y crymangelloedd dyfu a datblygu’n normal, a gellir trin pobl ag anhwylder y crymangelloedd cyn bod y problemau’n debygol o ddatblygu.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban anhwylder y crymangelloedd.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn.
Os bydd profion yn cadarnhau bod gan eich baban anhwylder y crymangelloedd, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chefnogaeth o’r adnoddau isod:
Mae’r ddogfen ‘Canllaw i rieni ar reoli clefyd Cludydd Crymangelloedd’ ar gael ar wefan y Sickle Cell Society.
- Gwefan: www.sicklecellsociety.org (Saesneg yn unig)
- Llinell Gymorth: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm (ac eithrio gwyliau banc)
- Rhif ffôn: 07842 245 980 (Dydd Llun a Dydd Mawrth)
020 89617795 (Dydd Mercher)
07809736089 (Dydd Iau a Dydd Gwener)
- E-bost: [email protected]
Friends of Cymru Sickle Cell & Thalassaemia CIC
- Gwefan: www.fosct.cymru
Rhif ffôn: 07598 700269