Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ysgolion sy’n hybu iechyd

Mae ysgol hybu iechyd yn un sy’n cryfhau ei chapasiti yn gyson fel lleoliad iach ar gyfer byw, dysgu a gweithio (Sefydliad Iechyd y Byd). Mae’r ‘Ysgol Iach’ yn un sy’n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hybu iechyd pawb sy’n ‘dysgu, gweithio, chwarae a byw’ o’i mewn. Gwneir hyn drwy addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut mae byw bywydau iach a thrwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau o amgylchedd yr ysgol sy’n dylanwadu ar eu hiechyd. Mae’n mynd ati i hyrwyddo, amddiffyn ac ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy weithredu cadarnhaol. Gellir cyflawni hyn trwy bolisi, cynllunio strategol a datblygiad staff ynghylch ei gwricwlwm, ethos, amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol. Mae’r e-fwletin hwn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a mentrau sy’n digwydd yng Nghymru fel rhan o Rwydwaith Ysgolion sy’n Hyrwyddo Iechyd a Llesiant Cymru.