E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Camddefnyddio alcohol a sylweddau
Croeso i e-fwletin Medi. Y mis hwn mae’r ffocws ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Diffinnir camddefnyddio neu’r camddefnydd o sylweddau fel camddefnydd parhaus o unrhyw sylwedd seicoweithredol sydd yn niweidiol neu’n beryglus i les, iechyd, sefyllfa gymdeithasol a chyfrifoldebau person. Dibyniaeth ar alcohol yw’r math mwyaf cyffredin o gamddefnyddio sylweddau, ond mae unrhyw gyffur, wedi eu cynnwys yn y categori hwn, yn yr un modd â chamddefnyddio glud ac erosolau a meddyginiaethau presgripsiwn.