E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gweithgaredd corfforol a theithio llesol
Mae gan weithgaredd corfforol lawer o fuddion i iechyd, yn cynnwys iechyd a lles meddwl. Mae gweithgaredd corfforol yn cyfeirio at bob symudiad yn cynnwys cerdded, beicio, troelli, chwaraeon, hmadden egnïol a chwarae. Gall teithio llesol wella lefelau gweithgaredd corfforol yn ogystal â chael effeithiau cadarnhaol ar ein hamgylchedd. Mae’r e-fwletin hwn yn cynnwys mentrau a rhaglenni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd yn annog ac yn hybu gweithgaredd corfforol a theithio llesol.