Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Anghydraddoldebau iechyd

Mae anghydraddoldebau iechyd yn deillio o amrywiaeth o ffactorau rhyng-gysylltiedig yn cynnwys mynediad at wasanaethau gofal iechyd, ymddygiad yn ymwneud ag iechyd, lles meddwl, cydlyniant cymdeithasol a phenderfynyddion ehangach iechyd fel ansawdd tai, mynediad at waith teg, tlodi ac ansawdd aer. Mae’r e-fwletin hwn yn cynnwys erthyglau o fentrau ar draws Cymru sydd yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau iechyd ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol.