Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwaith teg ar gyfer iechyd, lles a thegwch

Mae natur gwaith yn effeithio arnom ni i gyd, a gall naill ai fod yn rhan o’r ateb i Gymru iachach, fwy cyfartal, neu gall gyfrannu at straen seicolegol, salwch a marwolaeth gynnar. Yn ein gweminar ddiweddar, clywsom gan banel arbenigol oedd yn trafod yr hyn y gall asiantaethau lleol a rhanbarthol ei wneud i ddylanwadu ar waith teg i gefnogi iechyd, tegwch, busnes da a’r economi ehangach. Mae’r e-fwletin yma’n parhau â’r thema Gwaith Teg ac yn cynnwys gwybodaeth am fentrau gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg.