E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: GIG Gwyrdd
Yn dilyn ein gweminar ddiweddar ar Ofal Sylfaenol Gwyrddach, mae’r e-fwletin yma’n cynnwys gwybodaeth am fentrau sydd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng newid hinsawdd a gofal iechyd. Mae’n amlinellu rhai o’r newidiadau ymarferol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol i wella ymarfer o ddydd i ddydd yn ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol.