Adroddiadau blynyddol gwyliadwriaeth ffliw a brechu rhag y ffliw
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro canran y rhai sy’n manteisio ar imiwneiddio rhag ffliw tymhorol bob blwyddyn.
Yn ystod pob rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw (rhwng mis Hydref a mis Mawrth fel arfer), rhoddir crynodeb o ganran y rhai sy’n cael eu himiwneiddio bob wythnos yn yr adroddiad wythnosol ar weithgarwch ffliw yng Nghymru. Cyflwynir y ffigurau terfynol bob blwyddyn ar ddiwedd y tymor ffliw mewn adroddiad blynyddol, sydd hefyd yn cynnwys crynodeb epidemiolegol o’r tymor.
-
Yr adroddiad mwyaf diweddar (Saesneg yn unig)
Tymor y ffliw 2025-26 yng Nghymru
Prif bwyntiau’r adroddiad 2025/26
- Dechreuodd tymor 2025/26 yn gynharach nag arfer; fodd bynnag, ar y cyfan roedd ei ddwyster yn isel i ganolig o’i gymharu â’r tymhorau blaenorol. Roedd cyfradd ymgynghori ILI meddygon teulu sentinel uwchlaw’r lefelau llinell sylfaen am 8 wythnos, o’i chymharu â chyfartaledd o 13.5 wythnos ar gyfer y tymhorau blaenorol, ac roedd y gweithgarwch ar lefel ganolig am 4 wythnos.
- At ei gilydd, ffliw A(H3N2) oedd y feirws ffliw mwyaf cyffredin. Y tymor hwn, yr is-gytras K sydd newydd ymddangos o ffliw A(H3N2) oedd y feirws a ganfuwyd amlaf o’r rhai a ddilyniannwyd.
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw yn 71.7% ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, o’i gymharu â 70.4% y tymor diwethaf.
- Roedd y gyfradd dderbyn yn 43.2% ymysg cleifion 16 i 64 oed mewn un neu fwy o’r grwpiau risg clinigol, sy’n gynnydd o’i gymharu â 36.9% yn 2024/25 (roedd y tymor blaenorol yn cynnwys y rhai rhwng 6 mis a 64 oed). Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith grwpiau risg clinigol ar eu huchaf ymhlith cleifion â diabetes (50.2%) ac isaf ymhlith y rhai a oedd yn afiachus o ordew (35.8%).
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith menywod beichiog yn 61.3% (mesurwyd mewn arolwg blynyddol o fenywod mewn unedau mamolaeth mawr ym mis Ionawr 2026).
- Roedd y nifer a gafodd y brechlyn ffliw ymhlith plant dwy a thair oed, a gafodd eu himiwneiddio’n bennaf mewn practisiau cyffredinol, yn 46.1%. Y nifer o blant a gafodd eu himiwneiddio mewn ysgolion: rhwng pedair a 10 oed 57.6%, a rhwng 11 a 15 oed 46.1%.
- Roedd y nifer a gafodd eu himiwneiddio rhag y ffliw ymhlith staff Byrddau Iechyd a GIG, a adroddwyd gan Adrannau Iechyd Galwedigaethol y Byrddau Iechyd, yn 43.6% yn ystod 2025/26. Roedd 44.2% o staff â chyswllt uniongyrchol â chleifion wedi’u eu brechu rhag y ffliw.
- Cyfanswm yr unigolion yng Nghymru a gafodd eu himiwneiddio rhag y ffliw oedd 1,059,998 ar gyfer 2024/25 (tua 28% o boblogaeth Cymru), o’i gymharu ag amcangyfrif o 901,787 y tymor diwethaf.
- Roedd effeithiolrwydd y brechlyn rhag y ffliw wrth atal ymweliadau â meddyg teulu oherwydd achosion o’r ffliw wedi’u cadarnhau yn 21.4% ymysg y rhai 65 oed a hŷn, yn 32.2% ymysg y rhai 18 i 64 oed ac yn 51.6% ymysg plant rhwng dwy a 17 oed. At ei gilydd, roedd effeithiolrwydd y brechlyn rhag y ffliw ymysg oedolion yn is eleni nag y llynedd.
Ffeithlun cryno adroddiad 2025/26

Lawrlwythiadau adroddiadau
Ffliw tymhorol yng Nghymru 2025 i 2026 (Saesneg yn unig)
PDF, 4MB
Llawrlwytho PDF - Ffliw tymhorol yng Nghymru 2025 i 2026 (Saesneg yn unig) (4 MB)
Llawrlwytho PDFFersiynau eraill:
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2024 i 2025 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2023 i 2024 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2022 i 2023 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2021 i 2022 (Saesneg yn unig) - PDF, 2 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2019 i 2020 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2018 i 2019 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2017 i 2018 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2016 i 2017 (Saesneg yn unig) - PDF, 2 MB
- Ffliw tymhorol yng Nghymru 2015 i 2016 (Saesneg yn unig) - PDF, 3 MB