Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gyda’n gilydd ar gyfer teuluoedd: Rhannu adnoddau dibynadwy ar gyfer y dechrau gorau i bob plentyn

Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.  Er mwyn helpu teuluoedd i deimlo’n hyderus a’u bod yn cael cefnogaeth, creodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, set gyflawn o bedwar adnodd sy’n seiliedig ar dystiolaeth i rieni sy’n cwmpasu’r blynyddoedd cynnar. Yn ein gweminar ddiweddar, clywsom sut mae defnyddio’r adnoddau hyn o fewn rhaglenni a gwasanaethau a’u cynnig i deuluoedd yn helpu i greu cynnig rhianta cyson a dibynadwy ledled Cymru.  Mae hyn yn helpu i leihau camwybodaeth, cryfhau negeseuon allweddol, a gwella canlyniadau, gan gyd-fynd â strategaethau cenedlaethol.