Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ffyrdd o weithio – cyfle i rannu offer, fframweithiau neu ddulliau sy’n eich helpu gyda’ch gwaith

Yn ein gweminar ddiweddar, cawsom gyflwyniad i’r ‘Gacen Dystiolaeth’. Offeryn ymarferol yw hwn a ddefnyddir i gefnogi’r gwaith o adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i lywio prosesau penderfynu lleol. Mae’n cynnig iaith gyffredin ar gyfer trafod ymchwil a thystiolaeth ar draws sectorau y gellir ei haddasu i ddiwallu anghenion lleol.