Rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf
Dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni
Ynglŷn â’r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf
Mae’r 1000 Diwrnod Cyntaf yn rhaglen gwella iechyd dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i dystiolaeth gref sy’n awgrymu bod y cyfnod yn ystod beichiogrwydd a hyd at ben-blwydd y plentyn yn ddwy oed yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer cael effaith o ran gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau.
Un o nodau allweddol y rhaglen yw cefnogi’r system i ddeall y dystiolaeth orau sydd ar gael a gweithredu arni.
Datblygu dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni
Roedd y gwaith sylfaenol yn cynnwys:
- Datblygu theori
- 2 Adolygiad tystiolaeth – ffactorau risg ac amddiffynnol
- Dealltwriaeth Rhieni. 2 astudiaeth
- Grwpiau ffocws, cyfweliadau manwl mewn parau ac unigol â 141 o rieni.
- Grwpiau ffocws gyda 38 o rieni
- Dealltwriaeth broffesiynol – 2 astudiaeth.
- Grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl dros y ffôn. 70 o weithwyr proffesiynol gan gynnwys ymwelwyr iechyd, bydwragedd a staff prifysgolion.
- 35 o gyfweliadau manwl â gweithwyr proffesiynol neu ymarferwyr magu plant.
Negeseuon allweddol
Mae magu plant yn bwysig ar gyfer llesiant plant nawr ac yn y dyfodol.
Yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf mae rhieni yn ganolog i fywydau plant; maent yn llunio profiadau plant a’u rhyngweithio â’r byd. Mae magu plant hyderus, cydnerth a chadarnhaol yn gysylltiedig â gwell iechyd, llesiant a dysgu i blant yn awr ac i’w dyfodol. Mae gan gamau gweithredu i gefnogi rhieni i ffynnu yn eu rôl magu plant y potensial i dorri cylchoedd o anfantais rhwng y cenedlaethau a chefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Mae rhieni am wneud y gorau dros eu plant ond mae amgylchiadau’n golygu ei bod yn anoddach i rai rhieni nag eraill.
Nid yw magu plant yn hawdd. Mae’n anoddach os nad oes gennych y pethau sydd eu hangen arnoch ac rydych yn poeni’n gyson am gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’r rhain yn wahaniaethau annheg o ran yr adnoddau a’r cymorth sydd gan rieni a’r amgylchiadau sy’n eu hwynebu. Mae gwybodaeth a sgiliau magu plant yn chwarae rhan ond, i gefnogi rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn, mae angen gweithredu ar draws y system.
Gellir gwneud mwy i helpu i greu’r amodau i deuluoedd yng Nghymru ffynnu.
Mae’r lleoedd y mae rhieni yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar fagu plant mewn dwy ffordd. Maent yn dylanwadu ar sut y mae rhieni yn meddwl ac yn teimlo, a’r hyn y gallant ei wneud. Mae cymdeithas sy’n cefnogi magu plant yn cynnig gwaith teg; cartrefi sy’n ddiogel ac yn gynnes; trafnidiaeth fforddiadwy; cymunedau cryf; a mynediad hawdd at wasanaethau cefnogol pan fydd eu hangen.
Mae cymorth iechyd meddwl a chymdeithasol da yn gweithredu fel mesurau amddiffyn, gan helpu rhieni i reoli heriau a lleihau’r effaith ar eu plant.
Adnoddau
-
Datblygu Dull Iechydy Cyhoedd o Gefnogi Rhieni
Adroddiad technegol
-
Dull Iechyd y Cyhoedd o Gynorthwyo Rhieni
Adroddiad cryno