Argymhellion hyfforddiant ffliw i Gymru 2026 i 2027
Mae’r ddogfen hon yn nodi argymhellion ar gyfer hyfforddiant imiwneiddio rhag y ffliw yn GIG Cymru. Mae’r argymhellion hyn yn seiliedig ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Chwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori i’w defnyddio ochr yn ochr â’r safonau gofynnol cenedlaethol, sy’n tynnu sylw at wahaniaethau penodol mewn polisi a materion yn ymwneud â GIG Cymru.