Asesu’r effaith ar iechyd templed cwmpasu
Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd i gefnogi’r gwaith o’i gwblhau. Yn ddelfrydol, dylai’r cam cwmpasu gael ei gwblhau gan fwy nag un unigolyn.
Mae’r cam cwmpasu yn pennu trefniadau rheoli prosiect, llywodraethu, proses, amcanion, ffocws a maint yr HIA. Mae hefyd yn cyfrannu at gyflawni’r gwerthoedd a’r egwyddorion allweddol sy’n sail i weithredu HIA, gan gynnwys tryloywder, cyfranogiad a chadernid.