Neidio i'r cynnwys

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru

Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) gwirfoddol.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru (2026) wedi’i ddatblygu gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n ddiweddariad i’r canllaw blaenorol, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd – Canllaw Ymarferol (Wales Health Impact Assessment Support Unit, 2012).

Dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd statudol gyfeirio at Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru (2026).