Neidio i'r cynnwys

Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru

Mae Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru (Chwefror 2026) wedi’u datblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus drwy Grŵp Cyfeirio Defnyddwyr Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA).

Lluniwyd y ddogfen yn benodol ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru y bydd yn ofynnol iddynt, o 6 Ebrill 2027 ymlaen, o dan Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 (y Rheoliadau), gynnal HIA pan fyddant yn bwriadu gwneud penderfyniad o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau.

Mae canllawiau ar gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd gwirfoddol mewn amgylchiadau eraill ar gael mewn canllaw ymarfer ar wahân: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA): Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru.