Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Effeithiau rhaglenni aml-gydran o ran atal gwerthu alcohol i gwsmeriaid meddw mewn lleoliadau bywyd nos yn y Deyrnas Unedig

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 21ain Mawrth 2022

Awduron: Zara Quigg, Nadia Butler, Karen Hughes, Mark Bellis

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Archwiliodd yr astudiaeth hon effeithiau ymyriadau bywyd nos aml-gydran – gan gynnwys defnyddio’r gymuned, hyfforddi gweinwyr diodydd cyfrifol a dulliau gorfodi’r gyfraith – i leihau gorwasanaeth alcohol mewn pedwar lleoliad bywyd nos yng Nghymru a Lloegr. Canfuwyd bod ymyriadau aml-gydran yn gysylltiedig â chynnydd sylweddol mewn gwrthod gwasanaeth, gydag effeithiau’n gryfach ar gyfer ymyriadau a oedd yn cynnwys gwell gorfodi’r gyfraith, yn enwedig pan oedd yr holl gydrannau ymyrraeth yn cael eu gweithredu.

Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.

Dolenni: