Penderfynyddion masnachol trais: Nodi cyfleoedd i atal trais drwy ddadansoddiad fframwaith sy’n seiliedig ar iechyd y cyhoedd
Cyhoeddwyd ar: 15fed Mawrth 2023
Awduron: Kat Ford, Karen Hughes, Olumide Adisa, Sally McManus, Mark Bellis
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae’r papur hwn yn defnyddio fframwaith cysyniadol ar gyfer penderfynyddion masnachol iechyd i fapio penderfynyddion masnachol trais posibl. Mae’n archwilio arferion masnachol sy’n gysylltiedig â thrais yn uniongyrchol (e.e., drylliau) a’r rhai sy’n effeithio’n anuniongyrchol ar drais trwy ddylunio a hyrwyddo cynhyrchion, arferion cyflogaeth ac effeithiau ar yr amgylchedd, tlodi ac adnoddau lleol. Nod y papur yw cymhwyso’r fframwaith i ystyried ei ddefnyddioldeb ar gyfer nodi ffactorau risg ac amddiffynnol ar gyfer trais, arferion da presennol, heriau, a chyfleoedd ar gyfer atal trais.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.