ACEtimation – Effaith gyfunol Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar drais, ymddygiad sy’n niweidio iechyd, a salwch meddwl: Canfyddiadau ledled Cymru a Lloegr
Cyhoeddwyd ar: 23ain Awst 2023
Awduron: Rebekah Amos, Katie Cresswell, Karen Hughes, Mark Bellis
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cwmpasu gwahanol fathau o brofiadau poenus, e.e. cam-drin corfforol a/neu emosiynol. Gall deall effeithiau gwahanol fathau o ACEs ar wahanol ganlyniadau iechyd arwain gwaith atal ac ymyrraeth wedi’i dargedu. Gwnaethom amcangyfrif y cysylltiad rhwng y tri chategori o ACEs ar eu pen eu hunain a phan oeddent yn cyd-ddigwydd. Yn benodol, y berthynas rhwng cam-drin plant, bod yn dyst i drais, a thrafferthion yn y cartref a’r risg o fod ynghlwm â thrais, cymryd rhan mewn ymddygiad sy’n niweidio iechyd, a phrofi salwch meddwl.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.