Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog y cyhoedd i gymryd rhagofalon wrth i amodau sych gynyddu’r risg o danau gwyllt
Cyhoeddwyd ar: 12 Gor 2026
Mae digwyddiad sylweddol wedi’i gyhoeddi gan y gwasanaethau brys sy’n ymateb i dân gwyllt mawr ger Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy. Mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n parhau i fod yn y fan a’r lle, gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau partner i gyfyngu’r tân a diogelu cymunedau, eiddo, seilwaith a’r amgylchedd cyfagos.
Mae nifer bach o drigolion wedi cael eu symud o’u cartrefi ac yn cael gofal mewn canolfan orffwys leol. Rhoddwyd cyngor i drigolion sydd wedi’u heffeithio gan fwg gadw ffenestri a drysau ar gau, ac i yrwyr ddisgwyl oedi a dilyn unrhyw gyfyngiadau ar ffyrdd neu gyfarwyddiadau diogelwch sy’n cael eu cyhoeddi gan y gwasanaethau brys.
Wrth i’r gwasanaethau brys barhau i ymateb i’r digwyddiad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n atgoffa pobl sut i ddiogelu eu hiechyd pan fydd tanau gwyllt ac amodau myglyd.
Gall tanau gwyllt ddechrau a lledaenu’n gyflym yn ystod cyfnodau o dywydd poeth a sych. Gall mwg o danau gwyllt effeithio ar iechyd ac achosi llid i’r llygaid, y trwyn a’r gwddf. Gall hefyd achosi peswch, gwichian wrth anadlu, diffyg anadl ac anghysur yn y frest.
Dros dros yw’r symptomau hyn i’r rhan fwyaf o bobl, a byddant yn gwella’n gyflym unwaith y byddant i ffwrdd o’r mwg. Fodd bynnag, gall mwg effeithio’n fwy ar bobl sydd â chyflyrau anadlol neu’r galon eisoes, pobl hŷn, plant bach a menywod beichiog.
Os yw eich ardal wedi’i heffeithio gan dân gwyllt
Os byddwch yn gweld tân gwyllt, ewch i leoliad diogel ar unwaith a ffoniwch 999, gan ofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynghori pobl i:
- Ddilyn pob cyngor a roddir gan y gwasanaethau brys.
- Aros dan do lle bo modd a chadw ffenestri a drysau ar gau.
- Diffodd systemau aerdymheru sy’n tynnu aer i mewn o’r tu allan.
- Osgoi treulio amser yn yr awyr agored, neu gyfyngu arno, mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan fwg neu ludw.
- Os ydych yn teithio drwy ardaloedd yr effeithir arnynt, cadwch ffenestri’r cerbyd ar gau, newidiwch y fentiau aer i ailgylchu’r aer, a diffoddwch systemau cymeriant aer allanol lle bo modd.
- Cadwch unrhyw anadlyddion neu feddyginiaethau presgripsiwn gyda chi bob amser.
- Os bydd symptomau’n parhau neu’n peidio â gwella ar ôl symud i ffwrdd o fwg neu ludw, ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu, GIG 111 Cymru neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Sut i helpu atal tanau gwyllt
Gall pawb chwarae rhan wrth leihau’r risg o danau gwyllt drwy:
- beidio â chynnau tanau yn y cefn gwlad nac mewn mannau awyr agored eraill.
- Dewis picnic yn hytrach na barbeciw tafladwy.
- Cael gwared ar sigaréts a deunyddiau ysmygu yn ddiogel ac yn gyfrifol.
- Mynd â sbwriel adref a chael gwared ar boteli, caniau a gwydr wedi torri, a all gyfrannu at beryglon tân a niwed i’r amgylchedd.
- Clirio sbwriel, poteli a gwydr wedi torri a all fwyhau golau’r haul a chynyddu’r risg o dân.
Diogelu eich iechyd
Gall mwg o danau gwyllt effeithio ar ansawdd yr aer ac achosi symptomau iechyd dros dro. Os byddwch yn profi llid yn eich llygaid, eich trwyn neu eich gwddf, peswch, gwichian wrth anadlu neu ddiffyg anadl, bydd mynd dan do ac i ffwrdd o fwg fel arfer yn helpu’r symptomau i wella.
Dylai pobl â chyflyrau anadlol, fel asthma neu COPD, sicrhau bod ganddynt unrhyw feddyginiaeth bresgripsiwn gyda nhw a dilyn eu cynllun triniaeth arferol.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu iechyd cymunedau ledled Cymru.