Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o frwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a'ch babi.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i'ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i'ch babi heb ei eni, gan helpu i'w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Argymhellir brechiadau i amddiffyn rhag y pas (pertwsis), feirws syncytiol anadlol (RSV), ffliw a COVID-19 yn ystod beichiogrwydd i helpu i'ch cadw chi a'ch babi yn ddiogel.
Brechlyn |
Pryd i gael y brechlyn |
Wedi'i gynnig o 16 wythnos. Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. |
|
Wedi'i gynnig o 28 wythnos. Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. |
|
Wedi'i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi. |
|
Wedi'i gynnig yn ystod tymor COVID-19 yn unol â chanllawiau'r llywodraeth (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). Dylech gael y brechlyn COVID-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi. |