Neidio i'r cynnwys

Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru - 2024 - 4. Gweithio gyda ni

Rydym yn croesawu ymgysylltiad o bob rhan o’r gymuned ymchwil a gwerthuso yng Nghymru, y DU a thu hwnt i fynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil uchod. Mae hyn yn ymestyn i gyllidwyr, sefydliadau academaidd, y trydydd sector, y sector cyhoeddus ac ymchwilwyr y diwydiant i’n galluogi i fanteisio ar gryfderau ac arbenigedd ar draws sectorau a sefydliadau er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd sydd o ddiddordeb i ni. Hoffem drafod cyfleoedd i gydweithio ar y diddordebau a nodir yma, neu mewn meysydd eraill sydd y tu hwnt i’r rhai a amlinellir uchod. 

Gellir cysylltu â ni drwy Swyddfa Ymchwil a Datblygu ICC [email protected] sydd wrth law i ganfod arbenigwyr yn y meysydd hyn ar draws ICC er mwyn dechrau’r sgwrs.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2026