Neidio i'r cynnwys

Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru - 2024 - 3.6 Blaenoriaeth 6: Mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus

Mae newid hinsawdd yn cael ei gydnabod fel bygythiad mwyaf arwyddocaol y ganrif i iechyd y cyhoedd, gan beryglu iechyd corfforol, iechyd meddyliol a llesiant. Mae effeithiau newid hinsawdd yn amlweddog, gan effeithio ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd. Wrth i newid yn yr hinsawdd effeithio ar wahanol agweddau ar fywyd ac ar anghydraddoldebau iechyd, bydd blaenoriaethau ymchwil a gwerthuso yn y maes hwn yn dod i’r amlwg ac yn newid dros amser.

Cwestiynau Ymchwil

Diogelu, Hyrwyddo ac Addysg Ynghylch Newid Hinsawdd 

  1. Pa rôl y mae iechyd y cyhoedd yn ei chwarae yng nghyd-destun lliniaru newid hinsawdd ac addasu iddo, a lle mae’n cael yr effaith fwyaf sylweddol?
  2. Pa fathau o negeseuon a thechnegau cyfathrebu yw’r rhai mwyaf effeithiol ar gyfer cyfleu risg amgylcheddol i gymunedau sy’n wynebu risgiau o’r fath?
  3. Sut y gallai newid hinsawdd ddylanwadu ar gyffredinrwydd clefydau heintus yng Nghymru, a pha fesurau allai fod yn angenrheidiol i fynd i’r afael â bygythiadau sy’n dod i’r amlwg?

Ymateb a Hwyluso Gweithredu ar Newid Hinsawdd

  1. Pa strategaethau sydd wedi bod fwyaf effeithiol o ran ysgogi cymunedau ac ymgysylltu â nhw i gymryd rhan weithredol mewn ymdrechion i liniaru ac addasu i newid hinsawdd?
  2. Pa strategaethau sy’n bodoli i liniaru canlyniadau uniongyrchol, tymor canolig a hirdymor llifogydd a digwyddiadau eraill sy’n gysylltiedig â thywydd eithafol eraill ar iechyd meddwl a llesiant poblogaethau yr effeithir arnynt?
  3. Sut y mae cyfalaf cymdeithasol a gweithredu cymunedol yn cyfrannu at effeithiolrwydd ymatebion i liniaru newid hinsawdd ac addasu iddo?
  4. Pa fesurau iechyd cyhoeddus sy’n angenrheidiol i gynnig cefnogaeth i gymunedau sy’n wynebu dadleoli neu addasu oherwydd bygythiadau llifogydd sydd ar fin digwydd?
  5. Pa ymyriadau sy’n hanfodol i baratoi cartrefi ar gyfer heriau’r dyfodol a’u haddasu mewn ffyrdd sy’n sicrhau iechyd a llesiant?

Monitro a Gwerthuso Newid Hinsawdd

  1. Pa wahaniaethau sy’n bodoli rhwng ardaloedd trefol a gwledig ynghylch eu gallu i addasu i effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys addasiadau tai a gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi oer?
  2. Sut y mae’r gofynion ar y gwasanaeth iechyd yn newid o ganlyniad i newid hinsawdd, gan gwmpasu meysydd fel gwasanaethau iechyd meddwl, iechyd anadlol, a gofal heb ei gynllunio?
  3. I ba raddau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu fel sefydliadau angori yng nghyd-destun newid hinsawdd, a pha ôl-effeithiau sy’n deillio o ymyriadau’r GIG ar gyfer hyrwyddo iechyd gwyrdd?

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2026