Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Beth yw effaith ymyriadau neu ddulliau dan arweiniad cyflogwyr i gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle: Adolygiad Cyflym

Manylion:

Awduron: Alesha Wale, Salina Khatoon, Claire Morgan, Helen Morgan, Hannah Shaw, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Praveena Pemmasani, Jayne Fortune, Adrian Edwards, Ruth Lewis

Cyhoeddwyd ar: 16eg Medi 2026

Cynhaliwyd yr adolygiad cyflym hwn fel rhan o gydweithrediad y Gwasanaeth Tystiolaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Diweddariad nesaf: Does dim diweddariad wedi’i gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Cynhaliwyd yr adolygiad cyflym hwn gan y Gwasanaeth Tystiolaeth mewn cydweithrediad â Chanolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Nod yr adolygiad cyflym oedd archwilio effaith ymyriadau neu ddulliau dan arweiniad cyflogwyr i gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle.

Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio strategaethau ymgysylltu â chyflogwyr Cymru Iach ar Waith a mentrau llesiant yn y gweithle

Adroddiad llawn (saesneg yn unig)

Prif bwyntiau

Pa mor gyfoes yw’r dystiolaeth?

Cynhaliwyd chwiliadau ym mis Ebrill 2026, ac roeddent yn cynnwys astudiaethau a gyhoeddwyd o 2022 ymlaen.

Yr hyn a ganfuom

  • Fe wnaethon ni gynnwys naw astudiaeth a oedd yn edrych ar ystod o ymyriadau neu ddulliau. Roedd yr ymyriadau’n cynnwys gweithio hyblyg, diwylliant y gweithle, llesiant unigol, cefnogaeth i grŵp penodol o weithwyr, a safbwyntiau gweithwyr ar fentrau llesiant yn y gweithle.
  • Datgelodd y canfyddiadau ddarlun cymysg. Er bod pob ymyriad wedi arwain at rai gwelliannau yng nghanlyniadau llesiant gweithwyr, ni chanfuwyd bod pob canlyniad a aseswyd wedi gwella. Yn ogystal â hyn, canfuwyd bod rhai canfyddiadau’n amrywio yn dibynnu ar oedran, neu wrth edrych ar ganfyddiadau ar lefel cwmni yn erbyn canfyddiadau ar lefel unigol.
  • Cafodd yr holl ymyriadau eu gweithredu’n llwyddiannus mewn sefydliadau er bod rhywfaint o amrywiadau yn y nifer a gymerodd ran ar draws astudiaethau. Lle adroddwyd, roedd yr ymyriadau’n cael eu derbyn yn dda gan weithwyr yn gyffredinol.
  • Mae’r rhwystrau a’r hwyluswyr a gasglwyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall cefnogaeth sefydliadol, diwylliant y gweithle, pa un ai a yw’r cynnwys wedi’i deilwra i weithwyr iau, ymgysylltiad y rhai sy’n cyflwyno’r ymyriadau ac ymrwymiad y rhai sy’n derbyn yr ymyrraeth, dulliau o baratoi ar gyfer mabwysiadu neu gynnal newidiadau ar ôl hynny, pa mor aml y cyflwynir ymyriadau, hygyrchedd ac ymwybyddiaeth, effeithio ar weithredu llwyddiannus.

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • At ei gilydd, mae tystiolaeth i awgrymu y gallai amrywiaeth o ymyriadau dan arweiniad cyflogwyr helpu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant gweithwyr ifanc. Fodd bynnag, o ystyried amrywiaeth yr ymyriadau, ni ellid eu cymharu’n uniongyrchol. O’r herwydd, mae’r hyder yn y canfyddiadau ar gyfer pob ymyrraeth yn isel. Fodd bynnag, gall y canfyddiadau helpu i lywio datblygiad ymyriadau yn y dyfodol er mwyn cefnogi gweithwyr ifanc.
  • Gellir gweithredu llawer o’r dulliau adnabyddedig, gan gynnwys opsiynau gweithio hyblyg, gwella diwylliant y gweithle, darparu gwybodaeth wedi’i theilwra, rhoi goruchwyliaeth gefnogol, gweithgareddau cysylltu cymdeithasol, a chyfathrebu gwell, gyda buddsoddiad ariannol cymharol gyfyngedig.
  • Roedd prinder tystiolaeth ddiweddar o ansawdd uchel, yn enwedig tystiolaeth o’r DU, a oedd yn canolbwyntio ar weithwyr ifanc. Mae angen astudiaethau cadarn pellach sy’n asesu effeithiau hirdymor ymyriadau a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr ifanc er mwyn deall yn well sut i gefnogi’r rhai sy’n ymuno â’r gweithlu.

Gwybodaeth dechnegol

Methodoleg

Defnyddiwyd dull adolygu systematig byr i greu tystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan barhau i roi sylw i ragfarn. Chwiliwyd astudiaethau cynradd i edrych ar ymyriadau dan arweiniad cyflogwyr i gefnogi gweithwyr ifanc.

Rhanddeiliaid

Cymru Iach ar Waith

Lawrlwythiadau adroddiadau

Beth yw effaith ymyriadau neu ddulliau a arweinir gan gyflogwyr i gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle? Adolygiad Cyflym

PDF, 148KB

Llawrlwytho PDF - Beth yw effaith ymyriadau neu ddulliau a arweinir gan gyflogwyr i gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle? Adolygiad Cyflym (148 KB)

Llawrlwytho PDF