Offer rhagfynegi risg cyn llawdriniaeth sy’n rhagfynegi risg morbidrwydd mewn oedolion sy’n cael llawdriniaeth: adolygiad Tystiolaeth
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Alesha Wale, Toby Ayres, Salina Khatoon, Amy Fox-McNally, Claire Morgan, Helen Morgan, Hannah Shaw, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Claire Dunstan, Adrian Edwards, Alison Cooper, Ruth Lewis
Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2025
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Cyn llawdriniaeth, mae clinigwyr yn defnyddio offer rhagfynegi risg i asesu risgiau sydd ynghlwm â’r llawdriniaeth a chynllunio’r lefel gywir o ofal ar gyfer pob claf. Gall rhagfynegiad risg cywir helpu i nodi cleifion y gellir eu trin yn ddiogel mewn canolfannau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer triniaethau risg isel. Fodd bynnag, mae llawer o offer rhagfynegi risg ar gael ond nid oes llawer o gyngor ar gael o ran eu defnydd ar draws gwahanol arbenigeddau a lleoliadau llawfeddygol.
Ein nod oedd archwilio’r dystiolaeth ar gyfer 14 o offerynnau rhagfynegi risg a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru cyn llawdriniaethau wedi’u cynllunio (nad ydynt yn rhai brys) i oedolion. Roeddem am ganolbwyntio ar yr offer mwyaf addas ar gyfer dewis cleifion sy’n addas ar gyfer llawdriniaeth mewn lleoliadau risg isel.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Aethom ati i fwrw golwg ar astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 1999 a 2024.
Beth wnaethom ei ganfod?
Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth ar gyfer dau o’r offerynnau. Ar gyfer y 12 sy’n weddill, gwnaethom nodi 118 o astudiaethau ar draws amrywiol arbenigeddau. Roedd yr astudiaethau’n adrodd ar ddeilliannau ac yn mesur perfformiad mewn ffyrdd gwahanol, gan ei gwneud yn anodd i gymharu’r offerynnau. Ni edrychodd yr un o’r astudiaethau ar y defnydd o offer rhagfynegi risg mewn lleoliadau risg isel.
Dewisom offer ACS NSQIP, P-POSSUM, RCRI, ac ASA i’w dadansoddi yn fanwl gan mai nhw sydd fwyaf perthnasol i boblogaeth Cymru. Gwnaethom nodi 76 o astudiaethau i’w hadolygu. Nid oedd yr un o’r pedwar offeryn yn rhagweld risgiau ar draws pob math o lawdriniaeth yn gywir, ac roedd eu perfformiad yn amrywio yn ôl arbenigedd. Mae’r canfyddiadau hyn wedi’u cyfyngu gan y nifer fach o astudiaethau sy’n edrych ar bob math o lawdriniaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Nid oedd un offeryn yn rhagweld risgiau yn gywir ar draws pob arbenigedd, gan awgrymu bod rhai yn fwy addas ar gyfer asesu rhai triniaethau penodol o gymharu â thriniaethau eraill. Hefyd, nid oes tystiolaeth ar ddefnyddio offer rhagfynegi risg i nodi cleifion sy’n addas ar gyfer llawdriniaeth mewn lleoliadau risg isel. Mae angen rhagor o ymchwil gan ddefnyddio dulliau cyson i ddeall pa offer sy’n gweithio orau ar gyfer gwahanol arbenigeddau a lleoliadau llawfeddygol.
Gwybodaeth dechnegol
Ein nod oedd archwilio’r dystiolaeth ar gyfer 14 o offerynnau rhagfynegi risg a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru cyn llawdriniaethau wedi’u cynllunio (nad ydynt yn rhai brys) i oedolion. Fe wnaethom adolygu perfformiad y 14 offeryn a nodwyd a dethol y rhai mwyaf perthnasol i boblogaeth Cymru i’w dadansoddi ymhellach.
Awdur y Crynodeb Lleyg
Praveena Pemmasani, Aelod o Grŵp y Bartneriaeth Gyhoeddus
Lawrlwythiadau adroddiadau
Offer rhagfynegi risg cyn llawdriniaeth sy'n rhagfynegi risg morbidrwydd mewn oedolion sy'n cael llawdriniaeth: adolygiad tystiolaeth crynodeb gweitheredol
PDF, 191KB
Llawrlwytho PDF - Offer rhagfynegi risg cyn llawdriniaeth sy'n rhagfynegi risg morbidrwydd mewn oedolion sy'n cael llawdriniaeth: adolygiad tystiolaeth crynodeb gweitheredol (191 KB)
Llawrlwytho PDF