Neidio i'r prif gynnwy

Tywydd Oer

Gall tywydd oer achosi risgiau difrifol i iechyd y cyhoedd, gan achosi mwy o farwolaethau yn y gaeaf o'i gymharu â gweddill y flwyddyn.

Mae hyn oherwydd gall tywydd oer gyfrannu at hypothermia, cwympiadau ac anafiadau, trawiadau ar y galon, strôc, clefydau anadlol a ffliw, problemau iechyd meddwl, fel iselder, a gwenwyn carbon monocsid o foeleri, offer coginio a gwresogydd sydd wedi'u cynnal yn wael neu wedi'u hawyru'n wael.

Y bobl fwyaf agored i niwed gan dywydd oer yw pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl â chyflyrau meddygol blaenorol.

Gall ein Gwasanaeth Iechyd Amgylcheddol nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon amgylcheddol a allai cael effaith andwyol ar iechyd yr uniogolyn a iechyd cyhoeddus, fel tywydd eithafol.

Cyn tywydd oer

 

Yn ystod tywydd oer

  • Cadwch eich bys ar y pyls trwy cael y wybodaeth diweddaraf am y tywydd.
  • Ceisiwch osgoi'r annwyd a'r ffliw gyda arer hylendid da.
  • Cadwch yn gynnes i leihau'r perygl o hypothermia. Cadwch lefel y gwres rhwng 18C a 21C.
  • Gofalwch amdanoch eich hun a chadw llygad ar gymdogion hŷn
  • Bwytwch a yfwch digon a prydau a diodydd twym yn gyson trwy gydol y dydd
  • Gwnewch eich tŷ yn gynnes a diogel trwy leihau drafft.
  • Os ydych chi heb drydangwnewch yn siŵr bod gennych chi: gyflenwad o fflachlampau a/neu lusernau gwersylla ar gyfer golau dros dro, stôf nwy neu ddull arall o goginio os ydych chi’n dibynnu’n llwyr ar drydan, radio wedi’i phweru â batris (a sicrhau bod gennych chi fatris sbâr) er mwyn derbyn bwletinau gwybodaeth rheolaidd ar yr orsaf radio leol. Os bydd eich cyflenwad trydan yn torri, diffoddwch yr holl gyfarpar mawr, yn enwedig tanau a phoptai trydan, nes bydd y pŵer yn cael ei ailgysylltu. Peidiwch agor unrhyw rewgell nes bydd y cyflenwad wedi’i ailgysylltu’n iawn. Rhowch orchudd o bapur dyddiol a blancedi drosti er mwyn ynysu’r rhewgell ymhellach. Os bydd y bwyd wedi dadmer, peidiwch â’i ailrewi. Dylech ei ddefnyddio ar unwaith neu neu gysylltu â Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor Lleol i ofyn am gyngor.
  • Storiwch dŵr yfed mewn llestri addas rhag ofn i'ch cyflenwad dŵr methu.
  • Gwarchodwch eich eiddo a dewch mewn a eitemau rhydd a allai achosi difrod os cânt eu chwythu o gwmpas o'r tu allan.
  • Cadwch yn ddiogel tu allan. Os oes rhaid i chi fynd allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n gynnes, ac yn gwisgo esgidiau gyda gwadnau sy’n gafael. Hefyd, dylech ddweud wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a phryd byddwch chi’n dod adref. Os oes gennych chi ffôn symudol dylech sicrhau bod y batri wedi’i wefru’n llawn bob amser. Os ydych chi’n bwriadu mynd ar daith bell, cofiwch fynd ag unrhyw feddyginiaeth sydd angen ei chymryd yn rheolaidd gyda chi a chopi o’r ailbresgripsiwn.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych restr o rifau argyfwng rhag ofn y byddwch angen galw am gymorth
Trafnidiaeth

Peidiwch teithio oni bai eich bod eich taith yn gwbl angenrheidiol.

Os oes rhaid i chi yrru, neilltuwch ddigon o amser ychwanegol ar gyfer eich taith, byddwch yn barod am oedi a sicrhewch bod eich cerbyd mewn cyflwr da.

Ewch a pecyn argyfwng sy'n cynnwys:

  • Ffôn symudol
  • Map
  • Gwifrau cyswllt
  • Fflachlamp
  • Triongl rhybudd
  • Sgrafell ia
  • Dadmerydd
  • Pecyn cymorth cyntaf
  • Dillad cynnes a blanced

Os ydych chi'n bwriadu mynd ar daith hir neu os oes disgwyl tywydd drwg dylech ychwanegu:

  • Unrhyw feddyginiaeth sydd angen i chi ei chymryd yn rheolaidd a chopi o ailbresgripsiwn
  • Bwyd a thermos gyda diod poeth
  • Rhaw (os oes eira ar y gorwel)
  • Pâr o esgidiau
  • Sach cysgu
Cyngor ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Atgoffir cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu cynlluniau uwchgyfeirio perthnasol a chymryd camau gweithredu parhad busnes priodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n gallu ymdopi cystal â phosibl ag unrhyw alw cynyddol cysylltiedig.

Lawrlwythiadau

Cyngor tywydd oer ar gyfer gweithwyr professiynol

Cyngor tywydd oer i'r cyhoedd