Neidio i'r prif gynnwy

Tywydd

Gall tywydd eithafol gael effaith negyddol ar iechyd y cyhoedd, yn enwedig ar iechyd pobl fregus.

Mae'n debygol bydd newid hinsawdd yn cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd, tywydd poeth difrifol a digwyddiadau tywydd eithafol, yn ogystal â chynnydd yn lefel y môr.

Cofiwch: Gellir defnyddio'r cyngor yma unrhywbryd.

Pryd fyddwn yn cyhoeddi cyngor iechyd cyhoeddus?

Pan fo Swyddfa Dywydd Cymru yn darogan tywydd anarferol neu eithafol o boeth neu oer neu lifogydd, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried cyhoeddi cyngor prydlon a chymesur.

Bydd unrhyw gyngor ar iechyd y cyhoedd yn cael ei rannu ar draws y GIG a Llywodraeth Cymru.