Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau'r dwymyn goch?

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, pen tost/cur pen, twymyn, cyfog a chwydu.  Dilynir hyn gan frech fân lliw coch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd plant hŷn yn cael y frech. 

Ar groen pigmentog tywyll, gall y frech lliw coch fod yn fwy anodd ei gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'.  Gall yr wyneb gochi ond yn welw o amgylch y geg.